PRIODAS.

Dydd Llun yn Eglwys Llanarmon, unwyd mewn glan briodas Private Charles Randell Clarke, Llundain, a Miss Mary Elizabeth Jones, Tyddyn Ffeltiwr, Rhosfawr.

Gwasanaethwyd ar yr achlysur gan y Parch Mr. Davies, Rheithor, Llanarmon. Y gwas oedd Lance-Corporal Harry Richard, Roberts, 2, Madoc Street, Fourcrosses, a'r forwyn Miss Jane Roberts, Tyddynronen, Fourcrosses. Yr oedd yn bresennol yn y briodas Miss Ella Thomas, Bwlchy-ffordd; a Mr. John Richard Jones, Tyddyn Ffeltiwr, a Mrs Sarah Roberts, Ty'r Gof. Fourcrosses.

Wedi mwynhau boreufwyd blasus yn Nhyddyn Ffeltiwr ymadawodd y par ieuanc gyda'r modur am Gaernarfon, a threuliasant eu mis mel ym Mhorthdinorwig.

Fel hyn y carodd hen gyfaill iddynt :-

Dau yn cyduno
    Mewn hen gwlwm serch;-
Charles a'i hoff Feri-
    Cyn mynd yn hen ferch.

Bendith ddilyno
    Eu bywyd drwy'r byd,
Ac aelwyd gysurus
    A gaffont bob pryd.

Yr Herald Gymraeg 29/07/1919