MR. LEWIS EVANS. PHILADELPHIA.
Geographer, Surveyor.At the age of 36, he met Benjamin Franklin at Franklin's print shop in Philadelphia. Franklin hired him as a clerk and they eventually collaborated in surveying the Middle British Colonies.
His two influential works, A Map of Pennsylvania, New Jersey, New York, and the Three Delaware Counties and A General Map of the Middle British Colonies in America, were used for years to come to establish boundaries and was useful during the French and Indian War.
Evans died in New York while imprisoned for slander on Lieutenant Governor Robert Morris of Pennsylvania.
Find a Grave.
MR. LEWIS EVANS, PHILADELPHIA, PHILADELPHIA COUNTY, PENNSYLVANIA.
Rhan o erthygl gan W. Arvon Roberts yn rhifyn Mai 2021 o Llanw Llŷn.Ymysg y Cymry cyntaf a gyrhaeddodd America Drefedigaethol yn y ddeunawfwd ganrif oedd brodor o Lŷn, sef Lewis Evans a anwyd yn Nhy Mawr, Llangwnadl, yn 1700.
Roedd yn fab i Evan Lewis Evans Plas, Llangwnadl ac yn frawd i Dorothy Evans (g. 1723), gwraig i George Griffith Evans. Bu Dorothy a'i gŵr yn byw yn Nhy'n Llannor, Rhosfawr ar un cyfnod cyn symyd i Benmaen, Pwllheli, ble bu hi farw.
Ceir y cofnod cyntaf o Lewis Evans un America yn 1736, yn dilyn ei alwedigaeth fel tirfesurydd a gwneuthurwr mapiau yn Ninas Philadelphia Pennsylvania, ac yn gydymaith i'r enwog Benjamin Franklin (1706-1790), gwyddonydd a'r gwleidydd.
Yn 1743 priododd Lewis Evans â Martha Hopkins (marw 1754) yn Eglwys Crist, Philadelphia. Ganwyd iddynt un ferch, Amelia yn Hydref 1743, a'i bedyddio ym mis Tachwedd yr un flwyddyn, gyda Deborah, gwraig Benjamin Franklin yn fam fedydd iddi.
Bu Lewis yn gefnogwr brwd i sefydliad y Prydeinwyr yn Nyffryn yr Ohio 'the flower of the whole globe.' fel y'i gelwid ganddo. Roedd yn llym ar bolisi'r gweinyddwyr Prydeinig oedd yn dadlau gyda'r Ffrancwyr ynglŷn â phwy oedd berchen y tir yn Nyffryn Ohio. Yn sgil hyn cafodd ei garcharu yn 1756 yn Efrog Newydd lle roedd yn byw ar y pryd ac fe'i gyhuddwyd o fradwriaeth. Roedd y farn gyhoeddus mor gref o blaid Lewis Evans fel y cafodd ei ryddhau.
Ond dridiau yn unig ar ôl hynny bu ef farw, ar Fehefin 12fed, 1756 gan adael Amelia, yn unarddeg oed, yn amddifad. Yn gyntaf rhoddwyd Amelia yng ngofal John, brawd Lewis Evans, a'i dilynodd i America, ond bu John farw yn 1759 a magwyd Amelia wedyn gan Deborah a Benjamin Franklin.
Claddwyd Lewis Evans ym mynwent Christ Church, Arch Street and 5th Street, Philadelphia, Pennsylvania.