MR. JOHN EVANS, NEW ORLEANS.
Ganed yn Waunfawr, Sir Gaernarfon - fe'i bedyddiwyd 14eg Ebrill, 1770, yn fab i Thomas Evans, cynghorwr gyda'r Methodistiaid, ac Anne, merch Evan Dafydd, yntau'n gynghorwr gyda'r Methodistiaid.Yn 1792 cytunodd ag Edward Williams ('Iolo Morganwg') i fyned gydag ef ar daith i ymweled â'r Indiaid Cymreig y dywedid eu bod yn byw yng nghyrion uchaf yr afon Missouri. Pan dynnodd 'Iolo' yn ôl o'r anturiaeth aeth Evans ymlaen ei hunan, gan gyrraedd Baltimore ar 10fed Hydref, 1792. Cychwynnodd tua'r gorllewin ym mis Chwefror 1793 trwy Philadelphia o Fort Pitt, gan fynd i lawr yr afon Ohio ac i fyny'r Mississippi cyn belled â St. Louis. Yr oedd llywodraethwr Sbaeneg St. Louis, Don Zenon Trudeau, yn ddrwgdybus ohono, ac fe'i cadwodd yng ngharchar, eithr cafodd Evans ei ryddhau ymhen amser, ac yn Awst 1795 aeth gyda James Mackay ar y drydedd ymgyrch a anfonwyd gan y 'Missouri Company' Sbaeneg i chwilio'r afon a'r wlad o amgylch iddi a darganfod ffordd trwy'r mynyddoedd i arfordir y Môr Tawel. Treuliasant y gaeaf gyda'r Mahas, ac ar 21ain o Dachwedd aeth Evans gyda'r Indiaid ar gyrch hela ychen gwyllt a barhaodd am 25 diwrnod.
Yn gynnar ym mis Chwefror 1796 anfonwyd Evans gan Mackay i geisio pobl Ffrangeg (Canada) y 'North West Company' a oedd wedi sefydlu gorsaf ar y Missouri ymhlith yr Indiaid Mandan. Ar ôl iddo deithio 300 milltir dros y tir fe'i gorfodwyd i ddychwelyd oblegid iddo ddyfod i wrthdarawiad â'r Sioux. Cychwynnodd eilwaith ar 8fed Mehefin a chyrraedd yr Indiaid Mandan ar 23ain o Fedi.
Ymlidiodd y bobl Ffrangeg o Canada, tynnwyd y faner 'Union Jack' i lawr a dyrchafu baner Sbaen yn ei lle. Ar wahân i un heliwr (Jacques d'Eglise), Evans oedd y dyn gwyn cyntaf i deithio i fyny'r Missouri am bellter o 1,800 milltir o'r fan y mae'r afon honno yn ymuno â'r Mississippi. Gwnaeth hefyd fap manwl o gwrs yr afon. Ar ôl treulio'r gaeaf gyda'r Indiaid Mandan bu raid iddo adael yr orsaf a dychwelodd i St. Louis ar 15fed Gorffennaf 1797. Parhaodd i wasnaethu Llywodraeth Sbaen, hyd nes y bu farw yn New Orleans ym mis Mai 1799.