MR. RICHARD CHARLES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mab Charles Mark a Catherine Lewis, Ty Mawr Bryncroes.Saer coed wrth ei alwedigaeth, fe wnaeth ymgymeryd a'r gwaith o adeiladu Capel Ty Mawr yn 1799.
Wedi priodi Jane Roberts o Landwrog, byw yn Tŷ Bach, Bryncroes ac wedyn Cae Newydd, Bryncroes.
Bedyddiwyd tua 15 o blant ond bu farw rhai yn ieuanc. Ymfudodd rhai o'r plant i America yn 1818.
Bu farw Jane Roberts ar 21ain o Dachwedd 1822, ac yn fuan wedyn ymfudodd Richard i America.
Owen Charles (1783-1864)
Robert Charles (1787-1861)
Elinor Williams wedyn Davies (1795-1868)
Phoebe Cunney (1800-1891) wedi priodi Isaac Cunney.
Bu Richard farw ar 29ain o Fawrth 1829 ac mae wedi'i gladdu ym mynwent Penygraig yn Remsen.