MRS. ELIZABETH MORRIS, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Gorphenaf 14eg, 1885, yn Utica, New York, bu farw Elizabeth, anwyl briod William R. Morris, yn 75 ml., a 4 mis oed, ac nid 77, fel yr awgrymwyd o'r blaen.Ardal enedigol Mrs. Morris oedd Rhostryfan, plwyf Llanwnda, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ei rhieni oeddynt Dafydd a Mary Jones. Buont yn byw lawer o flynyddoedd mewn tŷ o'r enw Penydalar, yn yr ardal uchod. Bu iddynt 16 o blant, a hithau oedd yr ieuengaf ond un brawd o'r enw Dafydd, yr hwn a laddwyd trwy ddamwain yn ngweithydd glo Merthyr. Pan tua 22 oed, wedi bod yn gweini mewn teuluoedd parchus, aeth adref i gymeryd gofal ei mam, yr hon oedd wedi colli ei hiechyd, yr hyn a wnaeth yn ffyddlon, fel yr edrychid arni yn uchel yn y gymydogaeth fel merch dyner a gofalus am ei mam a'i thad yn eu hen ddyddiau a'u gwaeledd, yr hyn a wnaeth heb obaith am dâl am ei llafur, am saith mlynedd.
Yn mhen tua phum mlynedd o'i harosiad gartref, ymbriododd â William E. Morris, yr hwn sydd wedi ei adael yn ei hen ddyddiau, yn gloff, ac yn gorfod defnyddio dwy ffon i gerdded ychydig, i alaru ei golled ar el hol, yr hon a fu iddo yn briod ffyddlon ac yn ymgeledd gymwys dros 47 o flynyddoedd.
Bu iddynt 10 o blant, 6 o'r rhai sydd yn awr yn fyw, ac yn cyd-alaru a'u tad ar ôl mam dyner a gofalus.
Yn 1845, ymfudasant i'r wlad hon. Buont saith wythnos ar y mor. Cyrhaeddasant Utica Mehefin laf, a phreswyliasant yn nghylchoedd Utica y 15 mlynedd cyntaf ar ôl dod i'r wlad hon. Wedi hyny symudasant i Nelson, Madison County. Ar ôl bod yn Madison County, o fan i fan, am tua 22 mlynedd, dychwelasant i ddinas Utica, i dreulio gweddill eu hoes, er bod yn fwy cyfleus i gael moddion gras yn eu hiaith; ac yma y gorphenodd Mrs Morris ei gyrfa ddaearol yn dawel, gan huno yn yr Iesu.
Ymunodd a chrefydd gyda y M. C. pan yn lled ienanc, pan o 18 i 20 oed, a pharhaodd yn ffyddlon hyd ddiwedd ei gyrfa, heb roddi achos tramgwydd i neb. Er hyny nid oedd hi heb ei diffygion, fel yr oll o honom, ond tynwn len drostynt, a nodwn ychydig o'i rhinweddau. Fel gwraig, yr oedd yn lanwaith a chynil, "yn gwarchod gartref, yn dda," gan adael i'w chymydogion drin eu materion eu hunain. Ond mewn achosion o afiechyd a chyfyngder, byddai hi bob amser yn barod i weinyddu yn ôl ei gallu. Yr oedd yn hynod fel un a barchai ei gŵr, a bod yn gynorthwy iddo, ac yn enwedig felly fel gwraig swyddog eglwysig.
Fel mam, yr oedd yn dyner a gofalus, a gwnal ei rhan i ddwyn y plant i fyny "yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd." Trwy ymdrech y rhieni a'r ysgol Sabbothol, medrai y plant ddarllen Cymraeg yn lled dda cyn bod mewn oedran priodol i fyned i'r ysgol ddyddiol. Fel Cristion, yr oedd yn egwyddorol a sefydlog, nid yn gwneyd rhyw lawer o dwrw ar brydiau, a bod heb wneyd dim ar brydiau eraill, ond ymlwybrai gyda gradd o gysondeb drwy lawer o helbulon a phrofedigaethau, gan ymddiried yn Nuw, yr hwn yr oedd yn pwyso arno fel ei chraig. Yr oedd hefyd yn hoff iawn o ddarllen y Beibl, a gellir dweyd ei bod "yn myfyrio yn nghyfraith yr Arglwydd ddydd a nos;" yn nghyd ag amryw lyfrau da eraill, yn neillduol gweithiau Watson a Morgan Howells. Yr oedd hefyd yn dra gofalus ar fod y ddyledswydd deuluaidd yn cael ei chynal yn gyson; a byddai yn llanw lle ei phriod, gyda'r plant, pan y byddai efe yn absenol. Nodwedd arall ynddi oedd cael cyfarfodydd gweddio yn mhlith y chwiorydd; bu yn foddion i'w gychwyn a'i gynal yn y blaen mewn rhai ardaloedd y bu yn aros ynddynt. Nodwedd arall a berthynai iddi oedd lletygarwch, yn neillduol felly i weision Iesu Grist. Pan yn byw yn y wlad, yn mhell oddiwrth y capel, a hefyd oddiwrth orsaf y rheilffordd, byddai yn ofalus rhag colli adeg y trên, pan yn eu cyrchu ac yn eu dychwelyd. Byddai ei thŷ yn agored i'w derbyn bob amser, a hithau yn barod i wasanaethu arnynt o'r pethau fyddai ganddi, o galon bur yn helaeth. Peth arall oedd yn nodweddu ei chymeriad fel Cristion yn fawr, oedd ei gorawydd am foddion gras, yn enwedig y society a'r cyfarfod gwaddi; ac ni byddai byth am aros gartref y Sabbothau pan na fyddai pregethau.
Cyfarfu â llawer o brofedigaethau yn ystod ei bywyd. Claddodd ei mam yn mhen tua dwy flynedd ar ôl iddi briodi, a'i thad dair blynedd ar ei hol. Y peth nesaf oedd ymbaratoi i ymfudo i America. Yr oedd cefnu ar Gymru am byth, a hen fynwent Llanwnda, y llanerch gysegredig lle y gorweddai ei thad a'i mam, yn anhawdd; ond gorfu i'r profedigaethau hyn gilio i roddi lle i un oedd fwy.
Ganwyd iddi bump o blant yn yr Hen Wlad, ac yn awr dyma hi yn cychwyn i America gyda'i phriod a'i phum' plentyn bach ar y 9fed o Ebrill, 1845. Wedi mordwyo am bum' wythnos bu farw ei bachgen ieuengaf, Morris, yn 10 mis oed, a bu gorfod ei gladdu yn y mor. Ymhen dwy flynedd a phum' mis collasant fachgen arall pert, yn 6 mlwydd oed. Tua'r flwyddyn 1869, collasant fab yn l9 ml. a 10 mis oed. Derbyniwyd ef yn gyfiawn aelod o eglwys y M. C, yn Utica, pan yn 12 oed, ac aeth rhagddo nes oes ei gynydd yn eglur i bawb. Bu colli David bron yn ddyrnod marwol i'w rieni, a buasai felly hefyd oni buasai iddynt gael nerth gan Dduw. Mawrth, 1871, collasant ei merch henaf, yn 33 mlwydd oed; yr ydoedd yn wraig briod, a bu farw heb awr o rybudd mewn ffordd o gystudd, gan adael priod hoff a thri o blant ar ei hol.
Yn 1862, daeth ystorm rymus arall i gyfarfod ein hanwyl chwaer, pan ymunodd ei mab Griffith â byddin y Llywodraeth yn amser y gwrthryfel, lle y gwasanaethodd fel milwr hyd derfyniad y rhyfel. Erbyn heddyw y mae hi wedi cefnu ar yr oll o brofedigaethau, croesau, a chystuddiau y fuchedd hon, ac wedi goddiweddyd llawenydd a hyfrydwch, a chystudd a galar wedi ffoi ymaith am byth.
Terfynwn gyda gair am ei haflechyd. Tua naw mlynedd yn ôl cafodd ergyd lled drwm o'r palys, fel y bu yn analluog i siarad am amryw ddyddiau; effeíthiodd yn niweidiol ar ei holl natur, yn gorphorol a meddyliol. Parhaodd i waelu yn barhaus, fel yr oedd wedi myned y blynyddoedd olaf o'i hoes yn hynod fusgrell a hurt. Yr oedd wedi cael pedwar dyrnod o'r parlys cyn y ddiweddaf, trwy ba un yr hunodd yn dawel yn yr Iesu, ar ôl 12 diwrnod o gystudd trwm i'n golwg ni.
Prydnawn y dydd Iau canlynol ymgynullodd tyrfa luosog o Gymry, Saeson a Gwyddelod yn nghyd i dalu eu cymwynas olaf iddi, yn Utica, trwy gynal gwasanaeth crefyddol yn y tŷ ar Hart Street, pryd y gweinyddodd Dr. Roberts yn effeithiol a theimladwy ar yr achlysur, yn y ddwy iaith. Boreu dranoeth hebryngwyd ei gweddillion marwol gyda'r trên i'w daearu wrth ochr ei mab Dafydd, yn mynwent Nelson, Madison County. Yno hefyd yr oedd lluaws o'i hen gyfeillion wedi ymgynull yn nghyd er dangos eu parch i'w choffadwriaeth am y tro olaf.