MRS. CATHERINE OWEN, CAMBRIA, COLUMBIA, WISCONSIN.

Yn Cambria, Wisconsin, Chwefror 2ail, 1885, bu farw Mrs. Owen, priod Mr. David Owen (drayman), yn 59 mlwydd a 9 mis oed. Yr oedd yn egwan ei hiechyd ers 32 mlynedd; a bu ar adegau mor isel fel yr ofnid ei cholli. Eto daliodd ati o'r naill gwrs i'r llall hyd yn awr, am yr hyn y teimla ei gweddw yn ddiolchgar, er mai ei cholli yn awr oedd colled fwyaf ei oes.

Yspeiliodd angeu ef o'r blaen o'i rieni a phedwar o'i blant, ond cyrhaeddocìd y golled hon yn ddyyfnach; er hyny buasai ei chymeryd ymaith flynyddau yn gynt, pan mewn amgylchiadau bydol cyfyngach, a'r plant heb orphen eu magu, yn peri mwy o helbul trallodus. Cafodd gystudd trwm am fisoedd cyn y terfyn : bu yn gorwedd am agos yr oll o'r 16 wythnos olaf. Ei hafiechyd yn y diwedd oedd bronchitis. Cafodd beswch caled iawn hyd o fewn llai na deuddydd i'w hymadawiad.

Merch ydoedd Mrs. Owen i Lewis a Jane Williams, Trawsfynydd. Dilledydd oedd ei thad; ac yr oedd hefyd yn bregethwr gyda'r Annibynwyr. Catherine oedd yr ieuengaf ond un o'r saith plant.

Bu farw ei rhieni agos yr un adeg a'u gilydd, pan oedd hi tuag wyth mlwydd oed, pryd y cymerodd y Parch. Davies, Penystryd, gweinidog yr Annibynwyr, hi i'w deulu yn Trawsfynydd. Wedi dod i oedran addas, bu yn gwasanaethu mewn gwahanol fanau gyda ffermwyr y plwyf, hyd nes oedd yn 22 oed, pryd y daeth i gadw ty i'w brawd, Ellis Williams, dilledydd a gwerthwr dillad, yn Llan Ffestiniog.

Priododd yn mhen blwyddyn a haner, Tachwedd 12fed, 1848, a Mr. David Owen, Maengwyn, o'r un pentref. Symudasant o'r Llan yn mhen haner blwyddyn i Blaenau Pfestiniog, lle buont hyd 1857, pryd y daethant i America. Buont am naw mlynedd yn Prankfort Hill, ger Utica, N. Y.; yna daethant i Cambria, Wisconsin, lle mae y gweddill o'r teulu eto. Collasant ddau blentyn yn Nghymru, a dau yn America; ac y mae tair merch eto yn aros, un wedi priodi, a'r ddwy arall gyda'u tad, yn cyd-alaru ac yn cyd-gysuro eu gilydd.

Cafodd Mrs. Owen y fraint o gael ei magu gyda chrefydd. Er iddi golli ei rhieni yn ieuanc, eto cafodd nodded crefyddol un o'r gweinidogion mwyaf duwiolfrydig, fel y nodwyd. Mawrhaodd hithau y fraint; ni welodd ddigon o ogoniant mewn dim a gynygiodd byd, cnawd, na diafol iddi trwy ei hoes, fel ag i werthu ei genedigaeth fraint er ei fwyn; cyfrifai yr oll yn golled o herwydd ardderchawgrwydd gwybodaeth Crist Iesu ei Harglwydd. Glynodd yn yr eglwys trwy ei hoes, gan ei theimlo yn gartref, a mwynhau ei bwrdd, heb flysio bord y cythreuliaid. Dygwyd hi i fyny, fel y gwelsom, gyda'r Annibynwyr, a gyda hwy y bu am haner blwyddyn wedi priodi, er fod ei gwr yn Fethodist; aent, tra yn y Llan, un i Peniel, a'r llall i Saron, yn dawel.

Ond pan symudasant i'r Blaenau, cyflwynodd ei llythyr gyda'i gwr i eglwys Bethesda, (T. C); ac yr oedd y symudiad yn eithaf esmwyth o bob tu. Cafodd lythyr ac ymadawiad serchog o Saron (A.), er gwybod mai at y Methodistiaid yr oedd yn symud, a derbyniad cyffelyb yn Bethesda; a pharhaodd yr eglwys i'w hoffi hi, a hithau yn hoffi yr eglwys yno, yn Sir Oneida, ac yn Cambria, hyd y diwedd. Yr oedd ei chrefydd yn rheoli a nawseiddio ei holl fywyd, gyda phethau cyffredin cystal a chylchoedd crefyddol.

Yr oedd o duedd ddystaw gyda byd a chrefydd, ac yn ochelgar iawn gyda ei geiriau. Yr oedd yn hynod o ddarbodus a chynil; cydnabyddai ei phriod y gallodd drefnu ei enillion bychain ef mor bwrpasol ag i allu talu ei ffordd, a gadael ei theulu mewn sefyllfa weddol gysurus. Gofalai dros ei theulu mewn gweithgarwch a theimlad. "Fy nghysur," medd ei phriod, "oedd ei phob peth am dros 36 mlynedd; cyd-ddygai a'm holl golliadau, cyd-gynaliai fy holl feichiau, cyd-cynaliai a mi yn fy holl drallodion, a chyd-yfai o bob mwynderau a gefais trwy yr holl flynyddoedd."

Gwnaeth ei goreu, trwy lawer o wendid, er mantais i'w phlant gael addysg wladol; a chawsant cystal mantais ag unrhyw blaut tlodion yn yr ardal. Ac ni fu yni lai ei hymcìrech gyda'u haddysg crefyddol. Gallai y ddau blentyn hynaf adrodd y Rhodd Mam pan oedd un yn 5 a'r llall yn 3 oed, a dysgai y lleill wrth eu clywed, pan yn rhy ieuanc i ddysgu yr egwyddor. Hyfforddiai hwy yn mhen eu ffordd, a hyderwn, am y gweddill sydd i'w cael, nad ymadawant a hi pan heneiddiant.

Fel cymydoges, yr oedd yn hynod o ffyddlon i wneyd ei goreu, a mwy na'i goreu, ì'w chymydogion pan mewn profedigaethau; ond ni welid hi braidd byth yn nhy neb os byddai pob peth yn dda yno. Dilynai foddion gras yn ddyfal, gwrandawai yn astud, a diau y daliai ac y mwynhâi lawer. Er mor dawedog a chynil ei geiriau ydoedd, rhoddai brofion fod achos yr Arglwydd yn agos at ei meddwl, ac mal pobl yr Arglwydd oedd ei chyfeillion penaf. Ei phrif lyfr oedd y Beibl; nid yn unig darllenai ef, ond sylwai ar ei gynwys, fel y dengys yr ol traul sydd ar ei Beibl, y dalenau sydd wedi eu plygu, a'r adnodau wedi eu marcio ynddo.

Dioddefodd ei chystudd yn dawel, yn brawf ychwanegol o gywirdeb ei chrefydd ar hyd ei hoes, yr ymddiriedodd yr oll i fyw ac i farw, I Grist, anwylyd ei henaid. Gan ei bod mor ddystaw, ac yn teimlo awydd gwella yn barhaus, ni ymddyddanwyd ond ychydig a hi yn ei chystudd am farw, rhag tarfu ei meddwl; ond y mae y rhai a wyddai oreu am dani yn dawel iawn eu meddyliau, mai at bobl yr Arglwydd y casglwyd hi, pan y casglwyd hi at ei phobl. "Cafwyd angladd," medd ei phriod, "digon parchus i dywysoges," yn mynwent Cambria, yr ail tranoeth.

Gweinyddwyd yn y ty ac ar lan y bedd gan y Parch. B. T. Roberts (Presb.), T. B. Jones (T. C), ac E. Owen (A.) Canwyd gan y cor, " Goleu yn y Glyn," a " Gawn ni Gwrdd tu draw i'r Afon," o "BlodauParadwys."

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1885.