ISAAC OWENS. CAMBRIA, COLUMBIA COUNTY, WISCONSIN.
Gorphenaf 13eg, 1885, yn 13 mlwydd oed, o'r dropsy on the kidneys, Isaac anwyl fachgen Thomas R. Owens a'i briod, ger Cambria, Wisconsin, gynt o Felinheli, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.Y dydd Mawrth canlynol ymgynullodd tyrfa fawr i dalu y gymwynas olaf iddo. Gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parchn. R. T. Roberts a David Pugh yn effeithiol iawn. Tad pob dyddanwch gysuro y teulu trallodus yn dad a mam a brodyr yn eu profedigaeth chwerw. Heddwch i'w lwch hyd udganiad udgorn Duw.