MRS. CATHERINE PARRY. SOUTH DELTA, WEST BANGOR, PENNSYLVANIA.
Mai 25ain,1885, yn South Delta, ger West Bangor, Pennsylvania, Mrs. Catherine Parry, anwyl briod Mr. John Parry, Ieu., o'r lle uchod, yn 27 mlwydd oed.Merch ydoedd i Robert a Catherine Lloyd, Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon oddeutu 13 mlynedd yn ôl gyda ei hewythr, Mr. Humphrey Lloyd, masnachwr yn South Delta.
Yn ei marwolaeth sydyn, yr hwn a ddygwyddodd heb fod neb yn ei gweled, pan yn ei chwsg, drwy ataliad gweithgarwch y galon, gadawodd briod ieuanc a dau o blant bychain i alaru ar ei hol. Ystyrid hi yn wraig ieuanc ragorol, a chafwyd yn ei bywyd arwyddion gobeithiol iawn o wir Gristion. Yr oedd yn aelod defnyddiol o eglwys Gynulleidfaol West Bangor, ac mae yma alar mawr ar ei hol yn yr eglwys a'r gymydogaeth.
Ar y 27ain claddwyd hi yn mynwent henafol Slate Ridge, yn mhllth beddau cysegredig teulu Mr. John Parry, tad ei phriod galarus, goruchwyiiwr ac un o berchenogion y Welsh Slate Quarry, ac anaml y gwelwyd yn y gymydogaeth y fath dorf wedl dyfod yn nghyd. Gweinyddwyd y gwasanaeth crefyddol ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd a'r Parch. Mr. Smith, gweinidog y Slate Ridge Church.
J. CADWALADER.