MR. JOHN PARRY. MILWAUKEE, WISCONSIN.

Hydref 6ed, 1885, wedi amryw fisoedd o gystudd trwm, John Parry, Milwaukee, Wisconsin, yn 61 mlwydd oed.

Daeth yr ymadawedlg i'r wlad hon o Ffrwd Galed, Tregarth, ger Bangor, Gogledd Cymru, yn 1853, a bu yn aros am rai blynyddau yn Peach Bottom, Pennsylvania, yn gweithio ei alwedigaeth fel chwarelwr. Oddeutu 15 mlynedd yn ôl daeth i fyny i'r Gorllewin, a sefydlodd yn ninas Milwaukee, lle mae brawd iddo yn ei oroesi, ac un arall yn Mankato, Minnesota.

Tua'r flwyddyn 1860 collodd el glyw i raddau helaeth, yr hyn fu yn achos o ddigalondid mawr iddo am dymor. Trwy ei gynildeb a'i ddarbodrwydd casglodd gryn lawer o gyfoeth pan wrth ei ddiwrnod gwaith yn y chwarelau.

Yr oedd yn ddyn o gymeriad difrycheulyd, ac yn Gristion cywir, er nad ydoedd, er's rhai blynyddau yu arfer mynychu moddion gras, gan nas gallai glywed dim o'r gwasanaeth. Yr ydoedd yn ddarllenwr mawr ar y Belbl a llyfrau da eraill, a phob amser yn barod i gyfranu at amcanion elusengar a daionus. Claddwyd ef yn Forest Home Cemetery, Milwaukee, y dydd Iau canlynol.

Y Drych ~ Hydref 22ain 1885.