MR. CORNELIUS M. PRITCHARD. UTICA, NEW YORK.
Awst 28ain, 1885, yn Utica, New York, yn 33 mlwydd, 11 mis a 12 diwrnod oed, ar ôl cystudd trwm o'r tubercular meningitis, yr hwn a achoswyd gan dyfiad y tubercle bacillus yn ngorchudd yr ymenydd, Cornelius M. Pritchard. Bu yn crwno am oddeutu blwyddyn, ond daliodd i weithio hyd o fewn pythefnos i'w farwolaeth. Bu farw wythnos i'r dydd yr aeth i'w wely, ar ôl dyoddef poenau annesgrifiadwy.Galwyd tri o feddygon goreu y ddinas i'w olwg, ond dywedasant ei fod o gyraedd pob cymorth meddygol. Modd bynag, gwnaeth pawb eu goreu i leddfu ei boenau ond am ddeng mynyd wedi dau boreu Gwener, hunodd yn dawel. Drylliog i'r eithaf oedd ei weled yn ceisio ffarwelio a'i deulu, yn neillduol pan yn erfyn ar ei briod fyned gydag ef, ac yn eu cofleidio.
Daeth yr ymadawedig i'r wlad hon bymtheg mlynedd yn ôl i Awst diweddaf, o Lanberis, Gogledd Cymru, ac yma y bu hyd ei farwolaeth.
Oddeutu chwe' blynedd yn ôl ymbriododd â Miss Maggie A. Roberts, sef merch Mr. a Mrs. Robert D. Roberts, New Hartford, a bu iddynt dri o blant, dwy eneth ac un bacbgen, y rhai a adawyd yn amddifad.
Y mae iddo bedwar o frodyr ac un chwaer, un o'r rhal (Isaiah) sydd yn Minneapolis, Minnesota, a'r llall (Robert) yn Kingsbury, Canada, John gartref gyda'i fam, ond nis gwyddys yn mha le y mae Richard. Ei chwaer ydyw Mrs. B. A. Davies, Voelas House, Pontrhythallt, ger Carnarvon. Bu farw ei dad ychydig dros flwyddyn yn ôl, yn bur sydyn, o glefyd y galon. Mae ei fam yn byw yn Llanberis, yr hon yr oedd yn bwriadu cael ei gweled y gauaf dyfodol, ond yn lle cymeryd taith i Gymru, teithiodd i fyd arall.
Saer coed ydoedd wrth ei alwedigaeth, a gallwn ddweyd ei fod yn ddyn dlwyd, sobr a meddylgar, ac yn dad a phriod tyner. Cydymdeimlir yn fawr â Mrs. Pritchard yn ei thrallod, a hyderwn y ca nerth i wrthsefyll yr ergyd drom a gafodd.
Dydd Llun canlynol daeth nifer fawr o'i gyfeillion i dalu y gymwynas olaf iddo, pryd y claddwyd ef yn y Forest Hill Cemetery, heb gymaint ag un o'i berthynasau yn ei angladd. Gweinyddwyd yn Gyraeg gan y Parch. William A. Jones (T. C ), ac yn Saesneg gan y Parch. J. D. Roberts (B.) Dymuna Mrs. Pritchard arnom ddiolch i bawb am eu caredigrwydd, ac yn neillduol i'r Parch. Mr. Roberts, yr hwn sydd yn gymorth hawdd ei gael mewn amgylchiadau o'r fath. Da genym ddeall ei fod yn enill ffafr fel dyn cymwynasgar a pharod mewn cyfyngder. Hefyd teilynga Dr. William. M. Gibson glod am ei ymdrech a'i garedlgrwydd ynteu.