MR. ERASMUS PRITCHARD. PLYMOUTH CALIFORNIA.

Awst 23ain 1885.- Dydd Llun, yr 17eg cyfisol, cymerodd damwain le yn y Pacific Mine, a phrofodd yn angeuol i ddyn o'r enw Erasmus Pritohard. Tra yr oedd tri-ar-ddeg o ddynion yn gweithio yn y lefel isaf, torodd y rhai oedd yn mlaen y lefel i mewn i winze oedd wedi ei sincio o'r lefel uwchben, ac yn haner llawn o ddwfr, nes y rhuthrodd y dwfr i mewn; ond nid oedd yno ddigon o hono i wneyd llawer o niwed, oni buasai rhyw fath o nwy oedd yn gymysgedig a'r dwfr. Mor fuan ag yr anadlai unrhyw un hwn, syrthient yn hollol ddi-deimlad ar unwaith.

Rhedodd y dwfr yn nghyda'r nwy tuag at y siafft, lie yr oedd Mri. William. T. Jones, foreman y gwaith, Erasmus Pritchard, y prif goedwr, a phump o fwnwyr. Canfyddasant hwy oddiwrth y goleu fod rhywbath allan o le ar yr awyr, ac yn ddisymwth syrthiodd rhai o honynt i lawr. Ceisiodd rhai ddringo y siafft, ac yn yr ymdrech yma cwympodd Pritchard yn ôl a boddodd. Ni pharhaodd y nwy ond am ychydig fynydau, trwy fod awyr bur yn dod i lawr trwy y siafft; felly achubwyd bywydau y lleill, er i rai o honynt fod am oriau yn ddideimlad. Cafwyd corff Pritchard yn ngwaelod y siafft, mewn tua 40 troedfedd o ddwfr.

Peth torcalonus oedd myned gartref at y wraig a'r pnm' plentyn i'w hyebysu o'r newydd galarus am ŵr a thad anwyl oedd ganol dydd yn y tŷ fel arferol yn bwyta ei giniaw, ond yn awr, yn mhen ychydig oriau yn cael ei gario yn gorff marwol a'r anadl olaf wedi ei adael. Y dydd canlynol hebryngwyd ei weddillion i dŷ ei hir gartref gan dyrfa luosog. Claddwyd ef dan nawdd yr Odyddion a'r Knights of Pythias. Yr oedd hefyd yn aelod o'r Chosen Friends. Hablaw gwraig a phump o blant, gadawodd i alaru ar ei ôl dri o frodyr yn y lle hwn, heblaw chwaer yn Minnesota, a brawd a phedair chwaer yn Nghymru.

Ganwyd Erasmus Pritohard yn 1848, yn y Meini Gwynion, plwyf Llanwnda, Sir Gaernarfon. Ymfudodd i Slatington, Pennsylvania, yn 1866, ac oddiyno i California yn 1869. Yn ystod yr amser y bu yma, gweithiodd y rhan fwyaf o dan Mr. William. T. Jones, fel prif goedwr; ac yr oedd yn cael ei ystyried yn un o'r rhai goreu wrth ei alwedigaeth. Dywed Mr. Jones fod yn anmhosibl cael dyn cystal i lanw ei le.

Teimla ei gydweithwyr yn drist o herwydd ei farwolaeth. Dywedant na chlywsant air croes o'i enau erioed. Yr oedd yn nodedig am ei ddull pwyllog, a bob amser mewn natur dda. Mae yn ergyd trwm i'r tri brawd sydd yma; ond i'r weddw a'r plant y mae yn beth annesgrifiadwy, sef colli mor ddisymwth briod a thad mor dyner, ffyddlawn a gofalus. Barnwr y gweddwon a thad yr amddifaid a ofalo am danynt yn eu sefyllfa drallodus.

Heddwch i'w lwch medd ei gyfaill-
RICHARD JONES.

Y Drych ~ Medi 10fed 1885.