MR. DAVID RICHARDS. MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 21ain, 1885, yn 68 mlwydd, 11 mis a 3 diwrnod oed, David Richards, Marcy, New York, yr hwn yn moreu ei oes oedd yn ddyn cryf, yn alluog i wneyd cymaint o waith a dau ddyn cyffredin, ond o herwydd diffyg gofal priodol am ei iechyd, ydoedd er's blynyddau yn dyoddef yn dost oddiwrth y crydcymatau a diffrwythdra yn ei gluniau. Yr oedd hefyd yn gryf o feddwl, yn deall egwyddorion a dyledswyddau crefydd yn dda; ac heblaw hyny yn llawn sel a brwdfrydedd.

Bu yn ddiacon am flynyddau lawer yn eglwys A. Holland Patent, ac yn bur ddefnyddiol. Meddai ar ddawn gweddi; medrai ganu yn dda; yr oedd ei dŷ bob amser yn noddfa i bregethwyr y gair, a'i logell yn agored i gynorthwyo achos crefydd. Tybiwn iddo gael ei eni a'i fagu yn yr Hendre, ger Ffestiniog, tua 1816.

Ymunodd â chrefydd pan yn 21 oed. Ymfudodd i America tua 45 mlynedd yn ôl, a threuliodd y rhan fwyaf o'i oes rhwng Plainfield a Marcy.

Bu yn briod ddwywaith; ac mae ei weddw a phedwar o blant yn fyw - un mab yn Plainfield, un arail yn ngorllewinbarth New York, a'r mab a'r ferch o'r ail wraig gartref gyda'u mam ar fferm brydferth iawn, lle y treuliodd y pum' mlynedd ar hugain diweddaf o'i oes mewn amgylchiadau cysurus. Dyoddefodd lawer iawn y flwyddyn ddiweddaf o'i oes gyda dolur ar ei goes a'r dyfr-glwyf; ond yr oedd crefydd yn rhoddi cysur cryf iddo.

Dydd Gwener, Hydref 23ain, ymgynullodd tyrfa luosog i'w hebrwng i dŷ ei hir gartref yn mynwant Bethania, pryd y pregethwyd gan y Parchn. J. R. Griffiths, Floyd, yn Gymraeg, ac R. G. Jones, Utica, yn Saesaeg. Traddodwyd pregeth goffadwriaethol am dano yn Holland Patent, Sabboth, Ionawr 3ydd, gan y Parch. Hugh R. Willlams, Plainfield. Rhoddodd y T, C. eu gwasanaeth heibio ar yr achlysur, a dechreawyd y cwrdd gan y Parch. T. T, Evans. Testyn Mr. Williams ydoedd Phil. 1 :23- "Y mae yn gyfyng arnaf o'r ddeutu," - yr hyn ydoedd profiad yr hen frawd pan fu Mr. W. ar "ymweliad ag ef ddiweddaf.

Cafwyd pregeth chwaethus a llawn tynerwch, heb ddim o'r sebon meddal sydd yn andwyo llawer pregeth angladdol. Coffhawd am ffyddlondeb yr ymadawedig yn parhau mor ffyddlon gyda'r achos dan gymaint anfanteision o herwydd llesgedd a phellder ffordd. Yr oedd yn aelod dros oes o'r Feibl Gymdeithas, ac yn llywydd y gymdeithas yn y rhanbarth. Byddai yn ffyddlon yn mhob moddion o ras; ac yn cydweithio yn mhob peth er llwydd yr achos, gyda'i gyd-ddiacon Griffith O. Jones a'r holl aelodau. Gwnai yr hyn a allat gyda'r canu yn gystal a holl ranau y gwasanaeth; a thystiolaeth crefyddwyr o bob enwad ydyw ei fod yn ddyn Duw, o ysbryd rhyddfrydig a llawn sel a ffyddlondeb.

Y Drych ~ Ionawr 21ain 1886.