MRS. ANN ROBERTS. BANGOR, PENNSYLVANIA.

Mai 26ain, 1885, tarawyd cymydogaeth Bangor, Pennsylvania, â syndod gan y newydd annysgwyliadwy o farwolaeth Mrs. Ann Roberts, anwyl briod Mr. Robert Roberts. Ni bu yn wael ond ychydig gyda pymthegnos. Cafodd y scarlet fever i ddechreu, ac yn ychwanegol y rheumatic fever, yr hwn, medd y meddyg, a drodd at ei chalon, gan ei chymeryd ymaith yn nghanol ei dyddiau a'i defnyddioldeb, yn 45 oed. Gadawodd ar ôl anwyl briod a thair o ferched, yn nghyd a'i hanwyl chwaer, Mrs. David G. Jones, y rhai oedd fel "Jonathan a Dafydd" am eu gilydd.

Buaswn yn rhoddi mwy na haner trigolion Bangor i fyned i'w bedd o flaen Mrs. Roberts, a chymeryd yr olwg allanol; ond "nid eich meddyliau chwi yw fy meddyliau i" ydyw hi; cysgod angeu sydd heb drefn.

Genedigol o Penybryn, Bethesda, Arfon, oedd Mrs. Roberts. Merch i'r diweddar Robert Pritchard. Cafodd y plant oll eu dwyn i fyny yn grefyddol, ac i ddylyn llwybrau rhinwedd a moesoldeb.

Ymfudasant i'r wlad hon tua thair blynedd yn ôl o Ffestiniog; ac mae yn ddi-ameu genym na bu yr un wraig yn fwy diwyd ac ymdrechgar i enill ei bywoliaeth, ac i wneyd ei theulu yn gysurus, nag ydoedd Mrs. Roberts. Hefyd, teimla yr ardal ei cholled mewn llawer amgylchlad. Mai 28ain, daeth tyrfa fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w gweddillion. Cyn cychwyn, canwyd yr hen benill, "Bydd myrdd o ryfeddodau;" yna awd yn araf i fyny i'r gladdfa. Ar lan y bedd, yn ôl ei dymuniad hi ei hun, canwyd yr un penill wedyn, a chafwyd anerchiad pwrpasol gan y Parch. Morris Roberts, Pwllheli gynt; oddiyno aeth y dorf i lawr i'r capel, a chafwyd pregeth angladdol effeithiol gan Mr. Roberts.

Yn hytrach na myned fel arfer i dŷ yr angladd, o herwydd fod clefyd oedd yno, darfu i Mr. a Mrs. David G. Jones, yn ôl eu caredlgrwydd arforol, ddarparu pobpeth yn y modd goreu yn eu tŷ eu hun ar gyfer y perthynasau a'r cyfeillion agosaf.

Y Drych ~ Mehefin 11eg 1885.