MRS. CATHERINE ROBERTS. EMPORIA, KANSAS.

Ionawr 22ain, 1885, yn Emporia, Kansas, Mrs. C. Roberts, priod y Parch. Griffith Roberts, Dawn a Plymouth, Missouri, yn 57 mlwydd oed.

Ganwyd hi yn Nghaernarfon, Gogled Cymru. Merch ydoedd i Edward a Catherine Edwards. Priododd a'r Parch. Griffith Roberts. Bu iddynt 15 o blant - deg wedi eu claddu yn mynwent Llanbeblig, a phump yn fyw yn y wlad hon. Ymfudodd y teulu i'r Talaethau Unedig, gan sefydlu yn Summit Hill, Pennsylvania, yn 1869; yn yr hwn le y buont hyd 1878, pryd y symudasant i Big Rock, Illinois, ac oddiyno drachefn yn 1883 i Dawn, Missouri. Daeth Mrs. Roberts i Emporia tua pythefnos cyn ei marw, gyda'r bwriad o weini ar ei merch; ond gwireddwyd yr ymadrodd "Nas gwyddom beth a ddygwydd yfory."

Gyrwyd y corff i Plymouth, Missouri, er ei ddaearu. Cydymdeimlir â Mr. Roberts a'i blant yn y brofedigaeth chwerw ac annysgwyliadwy.

Y Drych ~ Chwefror 19eg 1885.