MRS. ELLEN ROBERTS. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.

Medi 26ain, 1885, yn Bangor, Northampton County, Pennsylvania, Mrs. Ellen Roberts, gweddw Mr. John Roberts (y gof), West Baagor, York County, Pennsylvania, i'r hwn le yr hebryngwyd ei chorff, ac y daearwyd ef yn Slateville, wrth ochr ei phriod, ei mab hynaf, a'i merch ieuengaf, yr olaf yn briod.

Merch ydoedd i William Williams, Y Ddol, Llanberis, Gogledd Cymru. Daeth i'r wlad hon yn 1849, a sefydlodd ar y cyntaf yn Cincinnati; symudodd yr ail flwyddyn i West Bangor. Yr oedd yn y lle hwn er's 11 mlynedd, ac yn aelod crefyddol er's blynyddau. Yr oedd o gyfansoddiad cryf, ond gafaelodd afiechyd ynddi, a bu yn wael ar hyd yr haf diweddaf. Y tro diwethaf y bu yn y gyfeillach, dywedodd wrthyf ar ôl hyny, ei bod mor wael fel nad oedd yn cael dim pleser yno. Yr wythnosau diweddaf dyoddefodd gystudd trwm, ac ni welai neb yn fwy tyner, addfwyn, a hawdd ei thrin na hi yn ei chystudd.

Yr oedd wedi ei haddfedu yn rhyfedd; ond rhyfedd yw gweithrediadau gras. Dywedai y byddai yn well iddi gael mynd adref, ond yn foddlawn i ewyllys yr Arglwydd.

Bu iddi wyth o blant. Claddodd rai yn ieuanc. Gadawodd dri yn myd y galar ar ei hol, dau fab ac un ferch, y tri yn briod; ac aeth hithau, credwn, i fyd y llawenydd tragwyddol, yn 68 mlwydd, 4 mis, a 25 diwrnod oed. Cychwynwyd hi yn barchus oddi yma, a chafodd angladd felly yn West Bangor, lle y gweinyddwyd gan y Parch. John Cadwaladr.
J. W.

Y Drych ~ Hydref 22ain 1885.