MAGDALEN HUMPHREYS.HOLLAND PATENT, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mehefin 2ail, 1859, yn Holland Patent, Magdalen Humphreys yn 25 mlwydd ac 8 mis oed.Ganwyd hi yn Cwmtylo, plwyf Llanuwchllyn, ger y Bala. Merch ydoedd i Cadwaladr a Gwen Roborts. Cafodd ei dwyn i fyny yu grefyddol o dan nawdd eglwys y T. C, yn y Park. Yr ydoedd o ymarweddiad syml o'i hieucnctyd, ac ni ddangosodd erioed awydd am ddifyrwch cnawdol ieuenctyd annuwiol. Cafodd ei derbyn i gyflawn aelodaeth eglwysig yn 15 oed.
Bu farw ei mam pan oedd yn 14 oed, ac yr oedd yn un o ddeg o blant, chwech o feibion a phedair o ferched. Hi oedd yr hynaf o'r merched, felly yr oedd gofal ymgeledd y teulu yu disgyn i'w rhan - llanwodd y cylch yn rhagorol - bu yn famaeth dyner, doeth a gofalus i'r plant ieuengaf. Daliai lywodraeth briodol arnynt, a hyny heb unrhyw drafferth. Dysgai iddynt lafur a diwydrwydd, porthai hwynt a gwybodaeth ac a deall, gan eu maethu mewn crefydd ac ofn yr Arglwydd.
Yn 1852 ymfudodd gyda'r teulu i'r America. Ymsefydlasant ar y Brynmawr, plwyf Deerfield, swydd Oneida. Bu mewn aelodaeth yn eglwys y T. C. Brynmawr o gylch 5 mlynedd.
Hydref 1857, ymunodd mewn priodas a Mr. Grifíìth Humphreys, Holland Patent - yma lle treuliodd weddill ei hoes mewn undeb ag eglwys yr Henadur William Rowlands.
Y 4ydd, ymgasglodd torf anrhydeddus o'i chyfeillion a'i pherthynasau i ddangos eu parch iddi trwy ei hebrwng i dy el hir gartref. Cyflawnwyd y gwasanaeth crefyddol yn nghapel y T. C.; dechreuwyd gan y Parch. J. R. Griffith; pregethodd y Parchn. Mr. Davies yn Saesoneg, a William Rowlands yn Gymraeg - yna awd yn orymdaith at gapel y T. C. ar y Brynmawr, lle y gosodwyd ei gweddillion i orwedd yn ymyl y capel. Pregethodd y Parch. Mr. Rowlands yno drachefn. Yr oedd llawer o rinweddau gwerth eu coffau perthynol i'r wraig ieuanc hon.
M. J. MEREDITH.
Dymunir ar y Drysorfa gofnodi y farwolaeth hon.