MR. RICHARD ROBERTS. MOUNT PLEASANT, RACINE, WISCONSIN.
Mehefin 27ain, 1885, yn 77 mlwydd oed, yn Mount Pleasant, ger Racine, Wisconsin, yr hen bererin Richard Roberts, ar ôl cystudd blin a maith. Math o helbul yn y spinal cord ydoedd ei afiechyd.Yn 1852 ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon o Dyffryn Ardudwy, Gogledd Cymru, ac ymsefydlodd ar ei ffarm yn agos i'r ddinas hon. Yn mhen wyth mlynedd ar ôl hyn bu farw ei wraig gyntaf, Catherine Roberts, yr hon oedd yn foneddiges dra chrefyddol yn ei hysbryd ac yn ei harferion teuluaidd.
Ymunodd Mr. Roberta â chrefydd tua haner cant o flynyddoedd yn ôl. Teimlai yn selog gyda'r diwygiad dirwestol y pryd hwnw, yr hwn oedd yn dechreu cynyrfu Cymru, a'r hwn a gariodd ddylanwad nerthol ar y dywysogaeth. Ar ôl ymuno â chrefydd byddai yn addoli Duw yn ei deulu, a byddai ei wraig yn arfer cymeryd rhan mewn gweddi; ie. addolent y pryd hwnw yn y dull hwn ddwy waith yn y dydd.
Bu ganddynt wyth o blant - pedair o ferched a phedwar o feibion - y rhai a fuont feirw oll ond dwy, o'i flaen ef.
Yn 1861 ymbriododd eilwaith â Mrs. Roberts, yr hon a adawodd mewn sefyllfa lled isel o ran ei hiechyd. Bu iddo un mab o'r briodas hon. Yr oedd yn ddarllenwr da, ac yn ddarllenwr mawr ar hyd ei oes tra y gallodd. Er ei fod yn aelod, efe a'i briod, yn eglwys y T. C. yn Racine, anfynych y byddai yn bresenol o herwydd pellder ffordd a henaint. Heddwch i'w lwch.
JOS. ROBERTS.