MR. ROBERT E. ROBERTS. GRANVILLE, NEW YORK.

Medi 19eg, 1885, yn Granville, New York, Robert E. Roberts, yn 67 mlwydd oed. Mab ydoedd i Robert Evans, Bryn Meddyg, Aber, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Enw ei fam cyn priodi oedd Grace Jones, Glyn, Aber.

Bu am beth amser yn moreu ei oes yn gweithio yn chwarel Cae Braich-y-Cafn; ond pan yn 19 mlwydd oed symudodd i Ffestialog, ac yn mhen tua dwy flynedd priododd ag Ann Lewis, merch i Lewis Cadwaladr Lewis, o'r lle hwnw, yr hon sydd wedi ei gadael yn weddw i alaru ei cholled ar ei ôl. Bu iddynt wyth o blant, pedwar o'r rhai fuont feirw yu ieuainc, a phedwar yn fyw yn bresenol, sef Robert Roberts (Alaw Bowydd), Ffestiniog, Mrs. John J. Williams, Granville, New York, a William a Lewis Roberts, sydd gartref gyda eu mam oedranus. Y mae brawd iddo, o'r enw Hugh Roberts, yn ôl yr hanes diweddaf a gawsant am dano, yn byw yn Pine Flats, Indiana County, Pennsylvania. Os gwel ef y llinellau hyn, carai y teulu trallodus gael gair oddiwrtho. Brawd arall iddo sydd yu byw yn Bodsili, Aber, Gogledd Cymru, a theulu ei ddiweddar frawd Edward Roberts, Gorphwysfa, Llanfairfechan.

Symudodd y teulu o Ffestintog i'r America yn 1873, ac ymsefydlasant am yspaid yn Granville, wedi hyny yn Farnamsville, Vermont, ac yn ddiweddaf yn ôl i Granville. Bu yn nychu am yn agos i flwyddyn, ond gorphenodd yr hen elyn, y darfodedigaeth, ei waith arno yn bur sydyn, trwy i un o lestri y gwaed dori. Tuag awr cyn hyny yr oedd yn eistedd yn y gadair, ac yn teimlo fel arfer. Yn fuan ar ôl lddo fyned i orwedd, meddai wrth ei briod, "Wel, Ann bach, mae y gwaed yn dod i fyny;" ac mewn ychydig o fynydau ehedodd ei ysbryd at Dduw yr hwn a'i rhoes.

Daeth trwy lawer o ystormydd a thywydd garw ar y daith, ac yr ydym yn credu iddo fyned trwy y storom ddiweddaf hon yn ddiogel, oblegid fe wyddai i bwy yr oedd wedi credu. Yr oedd yn aelod defnyddiol yn eglwys y M. C. yn Granville, ac "yn Israeliad yn wir." Fel y dywedodd y Parch. E. Roberts yn ei angladd - yr oedd yn ysgrythyrwr da. Bu yn ein dosbarth yn yr Ysgol Sabbothol am tua thair blynedd, ac yr oedd ei atebion bob amser yn dangos ei fod yn hyddysg yn yr Ysgrythyrau. Nid rhaid i'r teulu golli dagrau mewn anobaith; na, y mae sicrwydd gobaith yr efengyl yn rhoddi cysur iddynt ei fod mewn gwlad sydd well. Dyma un o wylwyr Seion wedi cwympo oddiar y muriau; bydded i hyn ein symbylu un ac all i ofalu am fod yn ein llawn arfogaeth, ac i erfyn ar i'r Arglwydd trwy ei Yspryd godi rhai yn lle y rhai sydd yn syrthio.

Cymerodd yr angladd le ddydd Mawrth y 22ain, pryd y gweinyddwyd yn y tŷ gan y Parch. E. Roberts, ac ar lan y bedd gan y Parch. Thomas Owens (A.) Dymuna y teulu galarus arnom gydnabod pawb yn wir ddiolchgar am eu cymorth a'u cydymdeimlad yn yr amgylchiadau. Tad yr amddifad a Barnwr y weddw fydd yn llon'd ei addewid i'r teulu hwn, ac a baro ei fod yn fendithiol i'w dwyn yn fwy ffyddlawn nag erioed dros Grist.

Ffarwel bellach, gyfaill tirion,
Ni chaf weled mwy dy wedd,
Ni chaf glywed dy weddiau,
Na! dystawrwydd sy'n y bedd;
Ond cyn hir daw gwys i minau
I dy ganlyn i'r oer gell,
Os caf Iesu'n geidwad imi,
Cawn gydfoli mewn "gwlad well."
GWILYM FFRYDLAS.

Y Drych ~ Hydref 8fed 1885.