MRS. SARAH ROBERTS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Merch Robert ac Elizabeth Roberts, Felin Llangwnadl.Priodi William R. Roberts yn America.
Claddwyd ym mynwent Capel Pen y Caerau ar Ionawr 31ain 1884.
Glyn Roberts ~ Medi 2021.
MRS. SARAH ROBERTS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn ardal Penycaerau, Remsen, New York, Ionawr 21ain, 1884, bu farw Mrs. Sarah Boberts, yn 86 mlwydd, 11 mis, ac 11 diwrnod oed. Merch ydoedd i Robert ac Elizabeth Boberts, ac yr oedd yn enedigol o Langwnadl, Sir Gaernarfon.Ymfudodd i'r wlad hon yn 1831, ac yn y flwyddyn ddilynol ymgysylltodd mewn priodas â William. R. Roberts, yr hwn a fu farw Hydref 15fed, 1863.
Ganwyd iddynt bedwar o blant, o'r rhai y mae tri yn fyw - John W. Roberts, Mrs. O. J. Prichard a Mrs. William Prichard - oll mewn amgylchiadau cysurus yn mhentref Remsen. Aelododd yr ymadawedig â phobl yr Arglwydd yn moreu ei hoes, a bu yn ffyddlon iawn gyda yr ysgol Sabbothol, yr oedfaon, angladdau. cyrddau mawr, a.y. pan o fewn ei chyrhaedd. Hoffai ddarllen gair Duw, a byddai yr hen Feibl mawr yn agored ganddi bron yn gyson pan yr oedd yn byw mewn unigedd. Yr ydoedd wedi trysori llawer o hono yn ei chof pan yn ieuanc, a thrwy hyny yr oedd yn gallu ymborthi ar ei wirioneddau yn ei henaint. Yn ei horiau hamddenol adroddai ranau o'r gwirionedd Dwyfol gydag arwyddion ei bod yn derbyn adgyfnerthiad i'w meddwl, ac adloniad i'w hysbryd oddiwrtho; ac oherwydd ei bod yn mynych dramwy meusydd y Gair, ni byddai yn dyfod i'r seiat yn waglaw, ond byddai ganddi yn wastad rywbeth yn arwydd ei bod yn sylwi ar brydferthwch ei gynyrchion. Diau y gallai ddweyd fel y Salmydd, "Dy ddeddfau oedd fy nghan yn nhy fy mhererindod."
Cyngorodd lawer ar ei phlant gyda dwysder a difrifoldeb mawr, gan eu hanog i fyw yn deilwng o efengyl Crist, ac i lynu wrth yr Iesu, trwy barch ac anmharch, hyd y diwedd.
Ar y 23ain daeth lluaws o bobl yr ardal ynghyd i dalu eu parch i'w choffadwriaeth, a gosodwyd yr hyn oedd farwol i orphwys yn mynwent Penycaerau, pryd y cymerwyd rhan yn y gwasanaeth crefyddol gan amrai o weinidogion y cylch, o blith yr amrywiol enwadau. Ar i Ysbryd yr Arglwydd deyrnasu yn nghalonau y rhai a adawyd i alaru eu colled o'u mam, yw ein gwir ddymuniad.
E. G. Williams.