MR. WILLIAM J. ROBERTS, JUDSON, MINNESOTA.
Ebrill 3, 1885, yn Judson, Minnesota, yn 71 mlwydd oed, bu farw Mr. William J. Roberts, ar ol ychydig ddyddiau o afiechyd. Cymerwyd ef yn glaf nos Lun, o'r neuralgìa of the heart, ar ei ddychweliad adref o dy cymydog, a bu yn gorwedd hyd brydnawn dydd Gwener heb ddangos arwyddion neillduol o berygl; ond symudodd y boen at y galon, a diffoddodd ei fywyd yn sydyn. Yr oedd wedi bod yn marchogaeth am rai milldiroedd ychydig ddyddiau cyn hyny, heb ofalu ar gyfer cyfnewidiad tywydd; ond pan ar ei daith, cyfododd gwynt oer a gerwin, a thybir ei fod wedi oeri drwyddo ar y pryd.Daeth i America o Sir Feirionydd, G. C, oddeutu y flwyddyn 1841, ac arosodd yn Utica, N. Y., lle yr ymbriododd. Symudodd oddiyno i Racine, Wis., ac yn mhen ychydig gwnaeth ei gartref yn Emmet, yn agos i Watertown, Wisconsin, ac arosodd yno am ddeuddeng mlynedd, pryd yr ymfudodd ef a'i deulu, yn nghyd ag amryw deuluoedd Cymreig yr ardal, i South Bend, Minnesota.
Yr oedd Mr. Roberts yn cael ei gyfrif yn un o hen settlers y sefydliad, ac nid gwely o rosynau ydoedd bywyd, ar y dechreu, i'r cyfryw. Yn adeg y terfysg Indiaidd, dalient eu heinioes yn eu dwylaw, gan nas gwyddent y dydd na'r awr y cyfarfyddent a'u tynged. Llenwid yr awyrgylch gan swn magnelau, a gorchuddid aelwydydd gan waed y diniwed. Merthyrid teuluoedd cyfain, a gadewid eu cyrph drylliedig gan y lleiddiaid yn ysglyfaeth i adar y nefoedd a bwystfilod y goedwig. Cafodd Mr. Roberts ddiangfa gyfyng o'u dwylaw. Pan yr oedd ei a dau eraill yn dilyn peiriant dyrnu ar hyd y ffordd i fferm gyfagos, gwelent yr Indiaid yn dyfod i'w cyfarfod, yn cario drylliau ar eu hysgwyddau, ac nid oedd dim i'w wneyd ond gadael y peiriant a'r ceffylau, a gwneyd y goreu o'r llwybr am noddfa; ond lladdwyd un o'r tri ar ei waith yn dechreu dianc.
Yr oedd hefyd yn un o "blant y cystudd mawr." 0 ran ei gorph yr oedd yn fychan, ond yn gadarn a gewynog, ac wedi ei fendithio ag ysbryd bywiog a phenderfynol, ac iechyd cyson hyd ei ddyddiau olaf. Eto dywedai ef fod yn un o "blant y cystudd mawr," oblegid dioddefodd gystudd dwysach na chystudd corphorol, sef y cystudd o edrych ar y rhai oedd yn anwyl yn ei olwg yn dioddef ac yn marw. Gwyr pawb sydd yn brofiadol o hyn fod y cyfryw gystudd i rai personau yn drymach nag afiechyd, Buom yn sefyll wrth erchwyn gwely perthynas agos ac anwyl, ac yn gofidio lawer diwrnod na chawsai godi, ac i ninau ddioddef yn ei le. Yr oedd pob ochenaid o'i eiddo yn gwanu ein calon, ac yn gwaedu ein teimlad; a phan y byddai y boen yn peidio arno ef, byddai ein cystudd ni yn aros.
Heblaw y cystudd o golli, yr hwn oedd yn bod i ni, wedi iddo ef ddianc o afael cystudd a galar am byth. Cafodd gwrthddrych ein cofiant lawer o gystudd o'r natur yna. Gwelodd amryw o'i blant yn cael eu taflu ar donau afiechyd, a'u blino yn fawr gan boenau, a'u cipio ymaith gan angeu. Gwelodd hefyd ei anwyl briod yn afiach am amryw fisoedd, a hyny fwy nag unwaith; ie, bu ar fin marwolaeth rai gweithiau. Parhaodd ei chystudd olaf am dros haner blwyddyn, a gwyddom fod ei gystudd ef ar y pryd yn ddyfnach a dwysach nag y gellir ei ddesgrifio.
Dydd Calan diweddaf, ar dywydd eithafol o oer, yr oedd ef yn sefyll wrth feddrod ei briod, cyn i'w chorph gael ei drysori yn y cartref cul. Yn mhen tri mis, yr oedd ei weddillion yntau yn cael eu dwyn i'r un llecyn. Gofalodd ef lawer, nos a dydd, am dani hi yn ei chystudd; ond ni chafodd ef amser i roddi gofal ar neb. Dygwyd ef ymaith ar frys oddiwrth ei blant oedd yn ei garu, ei gyfeillion oedd yn ei hoffi, a'i gydnabod oedd yn ei barchu. Dygwyd ef ymaith, er mor anwyl ydoedd, ac er mor anhawdd ei hebgor. Bu farw, meddai y meddyg, o'r neuralgia of the heart; dyna yr achlysur, mae yn ddiamheu; ond tybiwn mai y gwirionedd ydyw hyn, bu farw o doriad y galon.
Bu yn swyddog ar eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Seion am lawer o flynyddoedd, a chyflawnodd waith ei swydd gyda ffyddlondeb mawr, a zel diflino. Yr oedd yn allu yn yr ardal, nid o herwydd ei ddawn, nac o herwydd ei gyfoeth, fel y gwelir mewn ambell ardal, ond o herwydd ei fywyd pur, ac unplygrwydd ei ysbryd. Mewn gair, yr oedd yn allu mawr, oherwydd ei esiampl odidog fel dyn uniawn, cywir, gonest, a chrefyddol. Cawsom y pleser o fyw dan yr un gronglwyd ag ef am flwyddyn o amser, a'r flwyddyn hono yr olaf o'i fywyd, fel y gallwn sicrbau y darllenydd ein bod yn ysgrifenu y geiriau hyn, nid am ei bod yn ffasiwn i ysgrifenu cofiant da i ddiacon, ond am fod y diacon hwn yn teilyngu gwell cofiant nag y gallwn ei ysgrifenu.
Mae ei goffadwriaetn, mewn gwirionedd, yn fendigedig yn ngolwg y ddaear. Mae ei bresenoldeb yn dderbyniol yn ngwlad yr hedd a'r mawl dilyth. Mae bwlch, ie, mae bylchau ar y mur. Cwympa y cedyrn, cilia y ffyddloniaid. O! Arglwydd Dduw y lluoedd, galw eto filwyr dewr, gweithwyr difefl, o blith meibion y cedyrn, ì ymladd dros dy enw, i lafurio yn dy deyrnas.
Dydd Llun, Ebrill 6ed, oedd dydd yr angladd, daeth torf anferth yn nghyd, ac hebryngwyd y corph i'r capel, pryd yr anerchwyd y gynulleidfa gan Mr. Evan Jones, Carmel, a'r Parchn Powell (A.); Price (W.); J. C. Jones, W. Machno Jones, John W. Roberts, Griffith Roberts a Thos. E. Jones. Ar ol treulio awr o amser yn y capel, cyfeiriwyd tua'r gladdfa, yn nhref South Bend, a gosodwyd y corph marwol a llygredig yn y bedd, i'w gadw hyd ddydd yr udgorn, pryd y gwisgir y marwol hwn ag anfarwoldeb, a'r llygradwy hwn ag anllygredigaeth, ac yna y bydd y diwedd.
Traddodwyd y bregeth angladdol gan y Parch. Griffith Roberts, Horeb.