MR. JANE ROWLANDS. SLATINGTON, PENNSYLVANIA.
Rhagfyr 29ain, 1885, yn 65 mlwydd oed, Jane, priod Mr. John Rowlands, Slatington, Pennsylvania, a chwaer i Mr. John R. Davies, yr hwn sydd yn ddiacon parchus gyda'r A. yn y lle hwn.Ganwyd yr ymadawedlg yn Llanddeiniolen, Arvon, ond treuliodd ei hoes yn Môn; a daeth i'r wlad hon yn Awst, 1884, o Niwbwrch. Ni chafodd fawr o gysur yma, yn hytrach afiechyd a chystudd trwm fu ei rhan; ond ni bu hyn yn ofer, canys aeth yr undeb rhyngddi a'r Iesu yn gryfach, nes oedd pob undeb arall yn llaesu.
Hebryngwyd hi, Ionawr 1af, i dŷ ei hir cartref gan dorf luosog. Cafwyd pregeth sylweddol yn y capel cyn cychwyn tua'r gladdfu gan y Parch. William H. Jones. Gadawodd briod a dau o blant yn eu galar.
RICHARD E. ROBERTS.