MRS. HANNAH J. THOMAS. WEST VIRGINIA.
Mawrth 9fed, 1885, yn 28 mlwydd oed, ar enedigaeth ei chyntaf anedig, Hannah J. Thomas priod Thomas Jeffrey Thomas, o West Virginia, a merch Robert Thomas, Snowdon St., Llanberis, Gogledd Cymru.Glaniodd yn y wlad hon ar y dyddiau cyntaf yn Awst, 1882, a bu yn aros am dymor yn ninas New York, ac yn aelod o eglwys 13th Street. Ar y dydd cyntaf o Ionawr, 1884, priodwyd hi â Mr. Thomas, brodor o Llanberis, chwarelwr wrth ei alwedigaeth; ac aethant yn fuan i fyw i Virginia Orllewinol, lle y bu hi farw ac y claddwyd hi. Mae prudd-der yn llanw ein mynwes wrth adrodd yr hanes.
Yr oedd yr ysgrifenydd yn adwaen yr ymadawedig er yn blentyn. Un o blant eglwys anwyl a gweithgar "Gorphwysfa," Llanberis, oedd hi. Yr oedd wedi cael addysg dda, a'i magu yn grefyddol; o gymeriad dilychwin, ac wedi derbyn argraffiadau crefyddol dwfn ar ei meddwl er pan yn ieuanc; ac nid oes genym yr amheuaeth lleiaf nad oedd marw yn elw iddi.
Yr oedd i Mrs. Hannah J. Thomas gylch eang o gyfeillion a'i mawr edmygai yn ninas New York ac yn Nghymru. Gofaled newyddiaduron Carnarfon am gofnodi yr amgylchiad pruddaidd hwn.