MR. WILLIAM K. THOMAS. FAIR HAVEN, VERMONT.
Awst 24ain, 1885, yn Fair Haven, Vermont, yn 63 mlwydd oed, yr hen bererin William K. Thomas, ar ôl dyoddef cystudd am chwe mlynedd. Gwendid yn madruddyn y cefn oedd ei anhwyldeb.Yr oedd yn enedigol o yn agos i Llanrug, Gogledd Cymru. Daeth i ardal West Bangor, Pennsylvania, i drigfanu flynyddau yn ôl; aeth oddiyno i Slatington, Pennsylvania, a daeth i ardal Fair Haven 17 o flynyddoedd yn ôl. Yr oedd yn cartrefu er's talwm gyda'i ferch a'i fab yn-nghyfraith, Mr. a Mrs. William W. Parry, y rhai a fuont yn hynod dirion wrtho ar bob adeg o'i gystudd maith. Gadawodd ddwy ferch i alaru ar ei ôl.
Ar y 26ain, ymgasglodd tyrfa fawr i hebrwng ei weddillion i fynwent newydd Fair Haven, pryd y gweinyddwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parchn. Williams a Hughes.