MRS. ANN WILLIAMS. NEWBURGH, OHIO.
Hydref 28, 1885, yn 41 mlwydd oed. Mrs. Ann Williams, anwyl briod Mr. Richard Williams, teiliwr a phregethwr cynorthwyol gyda'r A. yn Newburgh, Ohio. Ni fu ond tua dau ddiwrnod yn sal. Yr hyn barodd ei marwolaeth sydyn ydoedd cyd gyfarfyddiad o dri achos, sef enyniad yr ymenydd a'r arenau, gwenwyniad y gwaed, a pharlysiad yr ochr chwith. Parodd ei marwolaeth sydyn syndod neillduol yn mhawb.Gadawodd mewn galar dwys ar ei hol briod a merch tua 13 oed. Cymerodd ei hangladd le brydnawn ddydd Gweuer, y 30ain, ac er fod y tywydd yn anffafriol, daeth torf fawr yn nghyd i dalu y gymwynas olaf i'w rhan farwol, pryd y gweinyddwyd ar yr amgylchiad gau y Parchn. Edwards (A.); Harrison (M. C.); Argos (B.).
Yr oedd yr ymadawedig yn aelod dichlynaidd ac heddychol yn eglwys yr A. Ymunodd â chrefydd yn Liverpool pan yn 18 oed, a chafodd ei derbyn yn aelod gan y Parch. D, Saunders, D. D. Symudasant fel teulu o Gymru i Utica, yna i Carbondale, wedi hyny i Sharon, Pennsylvania, ac yn olaf i Newburgh, lle y maent wedi trigianu tua blwyddyn a haner.
Dylaswn ddweyd i Mrs. Williams gael ei geni a'i magu yn Cwmyglo, ger Caernarfon, Gogledd Cymru. Heddwch i'w llwch, a Duw fyddo'n nodded i'w phriod a'i merch.