MRS. ELLEN WILLIAMS. BROWNVILLE, MAINE.
Medi 19eg, 1885, yn Brownville, Maine, Mrs. Ellen Williams, priod Mr. William Williams, yr Hirdir.Yr oedd Mrs. Williams yn enedigol o Bethesda, Arfon. Daeth i'r wlad hon ddwy flynedd ar hugain yn ôl. Yr oedd yn wraig dawel a charedig lawn, a thelmlir colled ar ei hol am amser malth.
Yr oedd yn aelod rheolaidd o'r eglwys Seisnig hyd nes y sefydlwyd yr eglwys Gymreig. Collodd ei hiechyd flwyddyn yn ôl, a chafodd gystudd trwm yr wythnosau olaf; ond dyoddefodd y cwbl yn amyneddgar a thawel, ac yn ei horiau olaf teimlai yn barod i farw. Galwodd ei holl blant ati, a rhoddodd gynghorion difrifol iddynt, gan eu hanog i fyw bywyd da.
Cafodd Mrs Williams farw yn ddedwydd, gan dynu cysur cryf o'r hen emyn anwyl:
"Ond pan y gwelaf draw,
Ar fynydd Seion,
Yn iach heb broen na braw,
Fy hen gyfeiillon."
Ei hoedran oedd 66 mlwydd. Gadawodd briod a saith o blant i alaru ar ei hol. Cymerodd yr angladd le Sabboth yr 20fed, ac yr oedd yn lluosog iawn.
Gwasanaethwyd gan y Parch. C. L. Nichols, gweinidog yr eglwys Seisnig, a'r Parch. R. O. Jones, gweinidog yr eglwys Gymreig. Canwyd amryw emynau Cymreig yn deimladwy. Y Sabboth dylynol pregethwyd pregeth angladdol, seiliedig ar 2 Cor., v. 15, gan R. O. Jones.