MRS. ELLEN WILLIAMS. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.

Medi 14eg, 1885, yn Minneapolis, Minnesota, o'r typhoid fever, Mrs. Ellen Williams, gwraig Mr. Hugh W. Williams, yn 40 mlwydd oed. Hebryngwyd ei gweddillion y dydd canlynol i Layman Cemetery, y Parch. E. E. Evans, o Kilbourn City, Wisconsin, yn gweinyddu. Cydymdeimlir yn fawr â Mr. Williams yn ei brofedigaeth chwerw. Yr oedd yr ymadawedig yn aelod ffyddlon o eglwys y T. C. yn y ddinas hon. Merch ydoedd i Morris Pritchard, Factory, Cemaes, Mon. Ymfudodd i'r wlad hon o ardal Dinorwig, Llanberis, Gogledd Cymru, flwyddyn i mis Mawrth diweddaf, yn nghwmni Mr. William J. Thomas a'i deulu, o'r un ardal. Yr Arglwydd a nertho ei phriod i ddal y brofedigaeth. H. O. R.

Y Drych ~ Hydref 15fed 1885.