MR. JACOB WILLIAMS. PLAINFIELD CENTRE, OTSEGO COUNTY, NEW YORK.

Mehefin 26ain, 1885, yn Plainfield Centre, Otsego County, New York, yn 78 mlwydd oed, Mr. Jacob Williams, yr hwn a ymfudodd i'r wlad hon o Gaernarfon, Gogledd Cymru yn y flwyddyn 1830.

Sefydlodd ar ei ddyfodiad am ychydig yn Prospect, Oneida County, New York; yna cododd ei babell i'w gosod i lawr yn ardal Bethel, plwyf Remsen. Saer coed ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bydd ôl ei law ar anedd-dai yr ardal hono am hir amser, yn goffadwriaeth o'i ddiwydrwydd a'i fedrusrwydd fel celfyddydwr. Aeth at grefydd yn adeg diwygiad mawr Steuben; a chawn ei fod yn un o'r rhai oedd yn ffurfio yr eglwys yn Bethel, lle bu yn aelod ffyddlon ac yn ddiacon cymeradwy dros lawer o flynyddoedd.

Nid oedd dim yn ormod ganddo wneyd dros yr achos. Pa beth bynag yr ymaflai ei law ynddo i'w wneuthur, gwnai ef a'i holl egni; ac ni chafodd neb erioed o'i gydnabyddion le i ameu ei gywirdeb fel crefyddwr. Tystiai un a fu yn cydweithio ag ef am ddeng mlynedd, na chafodd ddim ynddo erioed, mewn gair na gweithred, anghyson a'r hyn a broffesai.

Tua 16 mynedd yn ôl aeth i Plainfield Centre i adeiladu capel i'r eglwys Annibynol, i'r hon yr oedd ei fab yn nghyfraith yn weinidog; ac o herwydd afiechyd ei anwyl wraig, yno yr arosasant gyda'u merch hyd ei marwolaeih yn y flwyddyn 1876. Yn y flwyddyn 1877, cawn iddo yn nghwmni y diweddar Mr. John W. Jones o Swyddfa y DRYCH, ymweled a brawd a chwaer yn nghyd a llawer o berthynasau eraill iddo; a mawr oedd y croesaw a'r caredigrwydd a gafodd yno, ar ôl bod yn absenol am amser mor faith, fel nad adnabyddwyd ef ond gan un person yn unig, a hwnw heb fod yn berthynas iddo o gwbl. Bu yno yn mwynhau ei hun am amryw fisoedd.

Ar ôl dychwelyd, arosai ran o'i amser yn Plainfield, a'r rhan arall gyd a'i ferch yn Remsen, sef gwralg O. S. Evans, Ysw., yn hollol fel yr ewyllysiai. Gwyddai fod iddo y gadair esmwythaf, ar gornel gynesaf yn y ddau gartref. Gallaf sicrbau na chafodd tad erioed gan ei ferched fwy o barch a gofal nag a gafodd ef. Cofiai ei ddwy ferch yn barhaus y fath dad gofalus a thyner a fu iddynt ac ymdrechant ad-dalu iddo, yn Plainfield, yn ystod y pum' mis diweddaf o'i oes. Gan ei fod wedi cael amryw ergydion o'r parles, nis gallai fyned fawr o'r tŷ nac o'i wely am lawer o wythnosau.

Hiraethai am weled dydd ei ymddatodiad, gan dystio fod pob peth yn dda, a'i hoff adnod oedd, "Ni frysia yr hwn a gredo." Felly yn raddol, tawel, a digyffro, llithrodd yn esmwyth trwy'r afon; ac o'r afon adref, wedi proffesu proffes dda gerbron llawer o dystion. Claddwyd ef yn monwent Plainfield Centre, yn ymyl ei wralg. Daeth cynulleidfa luosog yn nghyd i'w angladd, yn yr hwn y gweinyddwyd gan y Parchn. O. W. Roberts, Plainfield, ac Edward Davies, Remsen.

Y Drych ~ Gorffennaf 23ain 1885.