MRS. JANE WILLIAMS. JERUSALEM, WAUKESHA COUNTY, WISCONSIN.

Tachwedd 22ain, 1885, yn ardal Jerusalem, swydd Waukesha, Wisconsin, o'r darfodedigaeth, yn 67 mlwydd oed, Jane, gwraig Mr. William D. Williams, saer.

Merch ydoedd i Thomas a Gwen Williams, Tal-y-bont, yn agos i Bangor, Gogledd Cymru. Bu yn cario corff gwan am lawer o flynyddoedd.

Cafodd ei dwyn i fyny yn grefyddol gyda y M. C. Aeth oddi cartref pan yn lled ieuanc, a bu yn Liverpool oddeutu 14 mlynedd. Bu mewn gwasanaeth am tua 10 mlynedd; ac yn y lle uchod y priododd, a bu iddynt ddau o blant yn Liverpool. Oddi yno symudasant i'r wlad hon yn 1848, a sefydlasant yn agos i'r hen Gapel Log, lle saif Jernsalem yn awr.

Bu iddynt ddeg o blant, pump wedi marw, a'r pump arall yn y wlad hon, pedwar yn Swydd Waukesha, ac un, sef Robert T. Williams, yn Cheyenne, Wyoming Terr.

Fel gwraig, yr oedd Mrs. Williams yn un ffyddlawn, siriol a charuaidd. Fel mam, yr oedd yn dyner a gofalus - braidd yn orofalus. Fel cyydoges, yr oedd yn un dawel a diabsen, heddychol a charedig.

Fel Cristion, yr oedd yn ddiragrith, cywir, ac unplyg, ac yn tueddu yn lled eithafol, fe allai, i bwyso ar gywirdeb mewn buchedd. Eto credwn fod ei henaid yn pwyso yn dawel ar aberth y groes. Mae ei lle yn wag yn y teulu, yn wag yn yr ardal, yn wag yn yr eglwys; ond credwn fod ei henaid gydag ysbrydoedd y rhai cyfiawn, y rhai a berffeithiwyd, a bod ei chorph yn aros adgyfodiad y rhai cyfiawn.

Gweinyddwyd yn y claddedigaeth gan y Parchedigion D. M. Jones, John Williams, ac E. H. Evans. Mae ei phlant yn teimlo ar ôl colli mam mor dda; a sicr yw fod ein hanwyl frawd, Mr. Williams, yn teimlo yn unig iawn ar ôl priod mor dyner a da. Yr Arglwydd a fyddo yn gymorth iddo yn ei hen ddyddiau.
E. H. E

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1886.