MR. ROBERT J. WILLIAMS. 5, MILLER STREET, UTICA, NEW YORK.

Ionawr 28ain, 1885, yn 63 mlwydd oed, Robert J. Williams, 5 Miller Street, Utica, gan adael gweddw ac un ferch - Mrs. T. Solomon Griffiths, i alaru ar ôl priod a thad caredlg a hynaws. Hefyd, y mae iddo ddwy chwaer a brawd yn y cylchoedd hyn. Ganwyd Mr. Williams yn mhlwyf Llandegwnin, ger Pwllheli.

Ymfudodd i America, sef tua deugain mlynedd yn ôl, ac yn Utica y buont fel teulu yn cartrefu yr holl amser. Saer coed ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu flynyddau yn ôl mewn partneriaeth â Mr. Thomas Jones - y firm yn cael ei badnabod wrth yr enw "Williams a Jones." Trwy ofal a diwydrwydd llwyddodd Williams i ddyfod yn feddianol ar gryn lawer o eiddo; a'r gwaith diweddaf yr ymgymerodd ag ef fel adeiladydd oedd codi dau dy iddo ei hun ar Park Avenue.

Adnabyddid ef oreu fel "Robert J. Williams, Mary St. oherwydd ar yr heol hono y bu yn byw am amser maith cyn symud at ei fab-yn-nghyfraith ar Miller Street.

Yr oedd yn ddyn a hoffid yn gyffredinol ar gyfrif ei gyfeillgarwch a'i ryddfrydigrwydd; ac yr oedd ef a Mrs. Williams yn ddiarebol bob amser am eu lletygarwch, fel y gall canoedd yn mhob man o'r wlad dystio. Nid ydym yn gwybod fod gan Mr. Williams un gelyn ar wyneb y ddaear. Yr oedd yn ymddiriedolwr yn nghapel y T. C. yn y ddinas er's tuag ugain mlynedd: ac ni fu yn ôl i neb yn ei haelionl a'i ffyddlondeb i adeiladu capel newydd Moriah.

Yr oedd hefyd yn aelod ffyddlon o'r Gymdeithas Iforaidd, y Gymdeithas Elusengar a'r Masons.

Blinid ef gan beswch a chaethder er's amser; ond yr oedd yn myned oddiamgylch fel arfer hyd Sabboth, Ionawr lleg, pryd, ar ôl dyfod o'r ysgol Sul, y tarawyd ef gan y pleurisy. Nid oedd neb, pa fodd bynag, yn meddwl fod yr afiechyd i farwolaeth; ond felly y profodd er pob gofal ac ymgeledd. Claddwyd ef y dydd Sadwrn canlynol o gapel Moriah, lle y gwasanaethwyd gan y Parchn. W. Roberts, D. D., W. A. Jones, a Dr. R. Gwesyn Jones.

Y Drych ~ Chwefror 5ed 1885.


MR. ROBERT J. WILLIAMS. 5, MILLER STREET, UTICA, NEW YORK.

I, Robert J. Williams of No 5, Miller Street, Utica, New York, mindful of the uncertainty of human life do make, publish and declare this my last Will and Testament in the manner following :

First : After the payment of my just debts and funeral expenses. I give, devise and bequeath to my wife Ann Williams absolutely and fee simple and in fee simple forever the house and lot known as No. 27, Mary Street, Utica, New York.

Second : All my other real estate and all my personal property I give, bequeath and devise to my said wife Ann Williams for her life only.

Third : To my daughter Mary, wife of T. Solomon Griffiths, I give, devise and bequeath the houses and lots known as No. 4, Mary Street and Nos. 121 and 123 Park Avenue Utica New York after the death of my said wife Ann Williams.

Fourth : I also make the following request which are to be paid respectively after the death of my said wife Ann Williams.

I give and bequeath to my sister Elizabeth Williams, Rhydybengan Bach, Llandegwning, Carnarvonshire, North Wales, ten dollars ($10).

I give and bequeath to my sister Jane Williams, Manchester England, ten dollars ($10).

I give and bequeath to Henry Morris and Margery Griffith, children of my sister Mary, widow of Robert Morris, ten dollars each ($10).

I give and bequeath to Dorothy James daughter of my sister Catherine, wife of John Harries, ten dollars ($10).

I give and bequeath to Ida and Robert, children of my sister Mary, widow of Robert Morris fifteen dollars each ($15).

I give and bequeath to Owen Williams now reared? by my said sister Catherine, wife of John Harries fifteen dollars ($15).

I give and bequeath the remaining personal property to my daughter Mary, wife of T. Solomon Griffiths.

Fifth : I designate and appoint my son in law T. Solomon Griffiths Executor of this my last Will and Testament.

In witness whereof I have hereunto set my hand this 21st day of January 1885.
Signed Robert G. Williams.

Signed, published and declared by the said testator to be his last Will and Testament in the presence of us who have signed our names at his request as witnesses in his presence and in the presence of each other.
Richard H. Williams 86 Miller Street Utica New York.
Richard R. Roberts 77 Miller Street Utica New York.

New York, U. S., Wills and Probate Records, 1659-1999.