MRS. MARY DANIEL, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Gorphenaf 21ain, 1847, Mrs. Mary Daniel, pan yn ymweled â theulu Mr. John Francis, Trenton, swydd Oneida.Gellir dywedyd am y chwaer hon iddi farw yn hen ac yn gyflawn o ddyddiau; canys yr ydoedd gweld cyraedd yr oedran mawr o bedwar ugain a naw o flynyddoedd. Treuliodd o gylch saith a deugain o'r nifer yma yn America, ac oddeutu un-ar-bymtheg-a-deugain yn proffesu crefydd yr Arglwydd Iesu. Yr oedd y chwaer yma yr hynaf o bawb a berthynai i eglwys Gynulleiidfaol Utica ; eto yr oedd mor ffyddlon a llafurus a chyson yn y moddion a neb, ac y mae yn ddiamheuol ei bod yn hen wraig hynod o dduwiol. Dechreuodd ei gyrfa grefyddol gyda y Trefnyddion Calfinaidd yn y Tŷ mawr, Bryncroes, swydd Gaerynarfon, Gogledd Cymru; ond pan ddaeth drosodd i'r wlad hon ymunodd gyda yr enwad Cynulleidfaol, gyda pha enwad yr ymgadwodd mewn cariad a chymeradwyaeth hyd ddydd ei marwolaeth.
Nid aml y cyfarfu nemawr â mwy o ryw droion chwerwon.
Bu hi a'i theulu amryw fisoedd ar eu mordaith; gwelodd gladdu chwech neu saith o'i phlant yn y môr, a gwelodd gladdu ei phriod yn nghyd a'r gweddill o'i phlant ar ôl iddynt ymsefydlu yn y byd o'i deutu. Ond cafodd gymorth i lynu wrth yr Arglwydd yn wyneb pob ystormydd; y Bibl a phethau tŷ Dduw oedd prif gynaliaeth ei henaid.
Dydd ei chladdedigaeth dygwyd ei chorff adref i'r tŷ lle yr arferai drigfanu, ac yno dechreuodd Mr. Rowland Griffiths yr addoliad, a phregethodd y Parch. James Griffiths yn Saesoneg oddiar Genesis 27 : 2, "Nis gwn ddydd fy marwolaeth;” yna y Parch. S. A. Williams, yn Gymraeg, oddiwrth Amos 4 : 12, “Bydd barod, Israel, i gyfarfod a'th Dduw.” Yna awd a'r corff i'w roddi i orwedd yn y gladdfa yn mha un y gorphwys gweddillion amryw o'i pherthynasau a nifer fawr o'i hen gymydogion, lle y gorphwysant oll yn dawel hyd foreu caniad yr udgorn!