MR. RICHARD EVANS, ORISKANY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yn ei anedd, ger Oriskany, swydd Oneida, Caerefrog Newydd, Chwefror 27ain, 1847, Mr. Richard Evans, yr hwn ydoedd frawd i Mr. Rees Evans, Marcy.

Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1832, o ardal y Dinas, Gogledd Cymru. Treuliodd ef, fel llawer, ei amser goreu i gloffi rhwng dau feddwl.

Ar ôl dyfod i America tueddwyd ef i droi ei olwg at yr Arglwydd ac ymunodd trwy broffes gyhoeddus ag eglwys Gynulleidfaol Utica. Ond trwy ei fod yn byw tua 10 mi!ltir oddiwrthym, ar dyddyn rhwng Oriskany a Rome, nid oedd yn gallu bod y blynyddoedd diweddaf mor aml yn ein plith a chynt.

Bu symudiad y brawd hwn yn golled fawr i'w wraig alarus a'i dri phlentyn amddifaid. Caffont brofi fod Duw yn Dad i'r amddifaid ac yn Farnwr y gweddwon yn ei breswylfa sanctaidd.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1847.