MR. ROWLAND WILLIAMS, LAKE EMILY, WISCONSIN.
Mehefin 20fed, 1885, yn ardal Lake Emily, Wisconsin, yn agos i 80 mlwydd oed, Rowland Williams, brodor o ardal boblogaidd Bethesda, Arfon. Ganwyd ef mewn tyddyn o'r enw Cilgeraint, plwyf Llandegai, Gogledd Cymru, a'i rieni oeddynt William ac Elizabeth Rowlands.Pan yn 23 oed ymunodd a chrefydd, ac efe oedd y cyntaf o'r teulu i wneyd hyny; dylynasant hwythau ei ôl.
Yn 1840 priododd â Mary, merch Richard a Mary Abram, Penarbronydd, ac ynddi cafodd ymgeledd gymwys; by y naill yn gymorth mawr i'r llall, yn naturiol a chrefyddol. Daethant i America yn 1848, ar y Llong hwyliau Ann Grand. a buont ddau fis ar y mor. Daethant yn lled ddiymdroi i Lake Emily, ac yma y bu ef hyd adeg ei ymddatodiad. Nid oedd ef fel llawer yn treiglo o fan i fan, a dyna un rheswm da paham yr oedd wedi gwneyd cartref mor gysurus - trwy ddiwydrwydd, cynildeb a darbodaeth.
Yn 1856 y daeth yr ysgrifenydd i gydnabyddiaeth ag ef, ac o'r adeg heno hyd amser ei ymddatodiad, buom yn cyd-filwrio dan yr un faner. Milwr cyffredin da oedd ef, dystaw a dyoddefgar. Nid oedd tuedd ynddo i flaenori, ac ni fynai fod yn gadben; ond yr oedd yn filwr da i Iesu Grist, a phob amser yn heddychol a hynaws yn y fyddin. Nid trwy ymladd a'n gllydd yr ydym i brofi ein bod yn ddysgyblion i'r addfwyn Iesu, ond yn hytrach trwy beidio. Yn hyn ymdebygai yr ymadawedig i'w feistr mawr.
Cafodd amser i drefnu ei amgylchiadau yn foddhaol cyn myned i ffordd, canys ei ollwng i lawr i'r glyn yn raddol gafodd. Dywedai Elias ei fab iddo ei gael lawer gwaith ar ei liniau yn ystod ei waeledd. Gofynai iddo rai gweithiau, "Beth ydych yn ei wneyd fan yma nhad?" I'r hyn yr atebai "Fel hyn yr ydw i yn aml iawn, 'rwan machgen." Tybiwyf mai ffordd lled sicr o gyraedd y nefoedd ydyw, i ni drafaelio llawer arni ar ein gliniau. Bu ein brawd farw yn dawel. "Ni frysia yr hwn a gredo."
Hebryngwyd yr hyn oedd farwol o hono i fynwent Lake Emily, ar y 23ain, gan dyrfa luosog iawn, yr hyn a brawf eto fod y brawd yn uchel ei gymeriad fel dyn so fel Cristion.
Gweinyddwyd yn y tŷ cyn cychwyn gan y brawd Josuah Roberts, Randolph, ac ar lan y bedd gan y Parchn. D. R Jones a J. R. Daniel.