MR. WILLIAM O. WILLIAMS. ARVONIA, KANSAS.

Ionawr 17eg 1885, yn Arvonia, Kansas, wedi ychydig ddyddiau o gystudd o'r pneumonia, William 0. Williams, yn 52 mlwydd oed.

Daeth i'r lad hon o Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, tua phudair ar ddeg o flynyddoedd yn ôl, ac ymsefydlodd yn Bala, Kansas. Er ei fod mewn amgylchiadau pur foddhaol yn myned yno, cyfarfyddodd ag anffodion fel yr aeth i dlodi. Wedi hyny symudodd i Emporia, lle y bu dros rai blynyddoedd: ond ni ddaeth i fyny o ran amgylchiadau ond ychydig neu ddim.

Ychydig dros flwyddyn yn ôl symudodd i Arvonia i fyw. Yn ei farwolaeth gadawodd weddw a chwech o blant mewn galar a thlodi mawr. Mae un o'r plant, (geneth tua 7 mlwydd oed) yn invalid heb obaith y daw byth i wneyd dim drosti ei hun. Nid yw yr hynaf o'r plant (geneth) ond 14 mlwydd oed, a'r ieuengaf yn faban wyth mis. Ymgymerodd y cymydogion a chasglu ychydig er cynorthwyo y teulu galarus, a gwnaed digon ar unwaith i dalu costau y claddu, ac y mae y personau canlynol wedi eu nodi yn Bwyllgor i gario allan unrhyw fesurau a farnant yn oreu yn y dyfodol, er budd y weddw a'r amddifaid: Mri. J. D. W. Jones, Edward O. Williams, Robert Morris, Thos. Griffiths, a David Lloyd. Deallwn yr apelir at gyfeillion yr ymadawedig yn Emporia a'r Bala am gymorth, a diau y gwrandewir llais yr anghenus gan y cyfryw.

Yr oedd Mr. Williams yn ddyn siriol, ac yn gymydog cymeradwy iawn. Daearwyd ei ran marwol y Sabboth canlynol, pryd y gwasanaethwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd gan y Parchn William Thomas, D. Todd Jones, a'r ysgrifenydd.
J. I. HUGHES.

Y Drych ~ Chwefror 12fed 1885.