MR. THOMAS BEANS. OSHKOSH, WISCONSIN.
Awst 3ydd, 1886, yn y sefydliad Cymreig ger Oshkosh, Wisconsin, yr henafgwr Thomas Beans.Ganwyd a magwyd ef mewn lle o'r enw Braichdu, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, yn niwedd 1803, felly yr oedd bron a chyraedd ei 83 mlwydd oed.
Pan yn 18 oed priododd a symudodd i Gorwen i fyw, lle y trauliodd flynyddoedd ei nerth ac y magodd deulu lluosog o blant. Yn haf 1854, symudodd yn nghwmni ei blant ieuengaf i'r wlad hon. Yr oedd y plant hynaf wedi ei flaenori yma. Wedi bod ychydig fisoedd yn Utica, New York, daeth i'r sefydliad uchod, lle treuliodd weddill ei oes. Y mae John, ei fab hynaf, yn byw yn Utica yn awr, ac yn aelod crefyddol gyda y Wesleyaid.
Yr oedd Mr. Beans tra yn Nghymru yn dylyn yr alwedigaeth o arddwr. Yr oedd wedi ei fendithio a chorff cryf a iach, ac a meddwl gwrol a phenderfynol. Cafodd lawer o gymorth i ymlwybro trwy y byd oddiwrth gydmares ei fywyd, yr hon oedd yn wraig rinweddol wir grefyddol, ac yn dawel dan yr amgylchiadau beth bynag fyddent. Cafodd ei chymorth a'i hymgeledd am 62 o flynyddoedd. Dechreuodd Mr. Beans ei yrfa grefyddol pan yn 20 oed, a daliodd i weithio yn selog gyda chrefydd hyd nes i fethiantwch ac ofnau henaint ei luddias.
Yn fuan wedi iddo ymuno a chrefydd ymroddodd i chwilio yr Ysgrythyrau, a daeth yn fuan i ddeall amcan mawr y Belbl, fel yr oedd yr oll o hono iddo ef yn gyfanwaith o un amcan. Gallai ddarllen unrhyw ran ohono mor ddiberygl iddo ei hun a'i gilydd; ie, gallai dynu brasder i'w enaid oddiwrth ddefodau yr Hen Oruchwyllaeth a rhanau hanesyddol yr Hen Deatament cystal â neb â adwaenem. Ei brif lyfrau, heblaw y Belbl a'r Llyfr Hymnau, oedd yr Hyfforddwr a Geiriadur Ysgrythyrol Charles o'r Bala. Am y cyntaf yr oedd bron bob gair o hono ar ei dafod leferydd, ac yr oedd wedi darllen y Beibl 18 o weithiau drosodd ar y ddyledswydd deuluaidd yn unig.
Ei fwyd mwyaf blasus yn ei flynyddoedd olaf oedd y 6ed benod o'r Hyfforddwr am y Ddau Gyfamod, a hefyd y 5ed a'r 8fed o'r Rhufeiniaid. Y cylchoedd y bu ef yn fwyaf cyhoeddus gyda hwy yn ei oes oedd yr Ysgol Sul a'r cyfarfodydd ysgolion; anaml y ceid neb gwell nag ef gyda y rhanau yna o waith yr Arglwydd. Hefyd yr oedd yn ddirwestwr egwyddorol o'r dechreuad, a llwyddodd i gael rhai i ddod i'r Ysgol Sul ac i seinio dirwest yr oedd pawb arall wedi methu gwneyd dim a hwy.
Er iddo gael oes lled iach ar ei hyd, eto cafodd bron yn lled helaeth yn ei ddiwedd beth oedd methiantwch gwendidau ae ofnau henaint. Dywedai un adeg, "Y mae henaint a'i flinderau wedi fy nal, y mynyddoedd a giliant a'r bryniau a symudant, eithr fy nhrugaredd ni chilia na chyfamod fy hedd ni syfl. Ni chafodd yr un clefyd na dim afiechyd neillduol, ond bu farw o henaint teg, y naill ran o'r corff yn pallu ar ôl y llall.
Wedi iddo golli ei briod, a chyn hyny ymroddodd ei ferch, Miss Ann Beans, i edrych ar ei ôl a'i ymgeleddu. Yr oedd ganddo yntau ffydd gref ynddi, ymddiriedai ei hun yn gwbl i'w gofal; a dangosodd hithau ofal cyson ac ymdrech mawr, a hyny yn wyneb dirfawr anfanteision.
Dydd Mercher canlynol hebryngwyd ei weddillion i fynwent Soar, i ochr ei briod, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd a'r brodyr Owen a. Jones.
JOHN K. ROBERTS.
Y Drych ~ Awst 19eg, 1886.
MR. THOMAS BEANS. OSHKOSH, WISCONSIN.
About three weeks since on one of the coldest days of the winter, Thomas Beans, an old man living near Picketts, while feeding his stock fell from a hay stack in a fainting spell to which he is subject, and when found was lying upon his face in the snow with his right hand frozen solid to the waist. No physician was called to attend him until last week when it was found that most of the hand was dead and mortification had set in. Drs. Rogers and Hall amputated the hand but the old man is so infirm that it is doubtful if he recovers.He is 84 years of age and previous to his misfortune has been very decrepit. He owns and lives upon a well stocked farm with no one but a blind daughter for companion and housekeeper, and it is a wonder to all how they get along.