MRS. DOROTHY DAVIES. CLIFTON, LOUIS COUNTY, IOWA

Mawrth 27ain, 1886, yn 41 mlwydd oed, Mrs. Dorothy Davies, priod Mr. John J. Davies, Clifton, Louis Co., Iowa. Rhoddodd enedigaeth i fab Mawrth 17eg, a daeth trwy yr amgylchiad hwnw yn llawn cystal a'r dysgwyliad; ond ymddengys fod y darfodedigaeth wedi ymaflyd er ys tro yn ei chyfansoddiad, a hwnw a fu yn angen iddi. Claddwyd hi y dydd Llun canlynol yn mynwent y T. C., yn Long Creek. Gweinyddwyd gan y Parchn. Thomas H. Jones (T. C.), John E. Jones (A.) a'r ysgrifenydd. Bedyddwyd y baban ddydd ei hangladd, a thraddodwyd pregeth angladdol iddi y Sabboth canlynol yn Bethel, capel y T. C., oddiar Rhuf. 8:24.

Yr oedd Mrs. Davies yn ferch i'r diweddar Morris Evans, gynt o Tyddyn Meurig, ger y Bwlch, Sir Feirionydd, G. C., ac felly yn gyfnither i'r Parch. Owen Evans, a fu yn gweinidogaethu yn Cincinnati, Ohio, ond yn awr yn Nghymru. Cydymdeimlir yn fawr a Mr. Davies a'r pum' plentyn yn eu profedigaeth chwerw, ac y mae ei marwolaeth yn ergyd trwm i'w hanwyl fam sydd yn weddw, a newydd gladdu mab anwyl, yn ogystal ag i'w brodyr a'i chwiorydd, sef Mrs. Ann Evans a'i phlant yn Red Oak, Iowa. Unig gysur ei phriod a'r perthynasau galarus oll, yw fod ganddynt sail gref i obeithio ei bod hi wedi newid ar ei gwell.

Yr oedd yn aelod ffyddlon gyda'r T. C. er yn ieuanc iawn. Gwneir nodiadau helaethach am dani yn y Cyfaill. Diolchir i Faner a Goleuad Cymru am godi yr uohod.
RICHARD HUGHES.

Y Drych ~ Ebrill 15fed 1886.