MR. JOHN S. DAVIES. LONG CREEK, IOWA.

Mai 23ain, 1886, yn 52 mlwydd oed, John S. Davies, Long Creek, Iowa, o'r clefyd melyn. Cafodd gystudd caled a phoenau arteithiol am ychydig o wythnosau, yna hunodd yn hollol dawel fel dyn ar ôl lludded a gwres y dydd yn syrthio yn esmwyth i freichiau cwsg naturiol, am bedwar o'r gloch boreu Sabboth.

Ymfudodd i'r wlad hon o Cefncnafal, Penal, Sir Feirionydd, yn 1852, gyda'i rieni a'r oll o'r plant, gan ddylyn Hugh ac Evan Davies oedd yma er's dwy flynedd yn flaenrol — y cyntaf wedi ei ragflaenu i'r bedd. Yr oedd Mr. Davies yn ddyn cymdeithasgar, dyddorol iawn i fod yn ei gwmni, yn syml a dirodres, yn meddu ar gymeriad cryf, ac yn nodedlg am ei gywirdeb gyda phawb a phobpeth, a phriodol y gellir dweyd am dano mae "dyn gonest un gwyneb" ydoedd. Ni arbedai na thraul na thrafferth er dwyn i ben yr hyn ag y byddai iddo ymgymeryd a'i gyflawni, pa un bynag ai mewn cysylltiad a chrefydd ai rhywbeth arall y dygwyddai iddo fod. Yr oedd yn anrhydedd i gymdeithas, a theimlir colled ar ei ôl yn eglwys Salem a'r ardal yn gyffredinol.

Am ddeg o'r gloch boreu Llun ymgasglodd tyrfa fawr i dalu y gymwynes olaf i'w weddillion. Dechreuwyd y gwasanaeth crefyddol wrth y tŷ trwy i'r Parch. W. Powell (A.), Minnesota, ddarllen a gweddio yn effeithiol, ac i'r Parch. T. H. Jones (M. C.) siarad yn Saesneg yn hynod darawiadol, ac wrth y bedd yn mynwent M. C. gan y Parch. T. W. Evans (A ) yn deimladwy iawn. Pregethwyd pregeth angladdol y boreu Sabboth dylynol yn Salem gan y Parch. T. H. Jones, a gwynfyd pe cadwem hi fel trysor gwerthfawr yn ein cof, fel y byddo yn egwyddor lywodraethol ein bywyd yn y dyfodol. Gadawodd briod dyner a chwech o blant hynaws mewn amgylchiadau cysurus i alaru eu colled ar ei ôl. O! y fath fwlch a'r unigedd dystaw, dwfn, sydd i'w deimlo yn y teulu ar ôl ei golli.

Yr Arglwydd a'u noddo oll ac a nertho Mrs. Davies i ymgynal o dan y brofedigaeth lem, ac a gynalio ei phen uwchlaw y dwfr er mor adyfned yw.
IDWAL MAI.

Y Drych ~ Mehefin 10fed 1886.