MRS. MARY ANN DAVIES. MILWAUKEE, WISCONSIN.
Mawrth 11eg, 1886, yn Milwaukee, Wisconsin yn 50 mlwydd oed, Mrs R. O. Davies (Moriog). Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Penygroes, Llanllyfni, Swydd gaernarfon, Gogledd Cymru ac yn ferch i Evan ac Ann Parry, o'r lle uchod.Daeth i'r wlad hon pan yr oedd yn dra ieuanc, tua 32 mlynedd yn ôl, gan ymsefydlu i ddechreu yn Bark River, Waukesha, Wisconsin; a daeth oddiyno yn mhen y flwyddyn i Milwaukee, lle y bu hyd ei marwolaeth. Bu yn briod ag R. O Davies (Moriog) am 30 o flynyddoedd. Ganwyd iddynt un ferch, yr hon a fu farw yn ddwy flwydd oed. Sciatic rheumatism oedd ei hafiechyd olaf, effeithiau yr hwn a esgynodd yu raddol i'r pen. Dy- oddeCodd gystudd poenus am rai wythnosau, a hyny yn dawel a dirwgnach. Yr oedd tawelwch dystawrwydd a dwysder yn mysg nodweddion amlycaf ei chymeriad. Nid oedd perygl y buasal yn blino un gymdeithas drwy siarad gormod. Mwy naturiol yr oedd iddi feddwl mwy nag a lefarai; a phan y llefarai, yr oedd gwedd ddeallus, naturiol a gofalus ar yr oll.
Gwelir rhai cymeriadau mewn cymdeithas, os yn tueddu ar y tawedog, yn tueddu hefyd at fod yn gymhrnllyd a sur. Ond yr oedd ei dystawrwydd hi yn gwaelodi ar sirioldeb a thymer dda, yn debyg i foreu tawel a siriol yn nghanol yr haf, pan y mae deddfau natur yn sugno gwlith y ddaear i eneinio gwyneb y nefoedd.
Cymerai ei lle yn hollol naturiol fel aelod o gymdeithas. Yr oedd yn gynil, gofalus a darbodus; ac nid yn unig yn ymgeledd gymwys i'r gwr, eithr yn gydymaith iddo yn ei deimladau, ei feddyliau a'i fyfyrdodau. Pan y byddai Moriog wedi llunio englyn, neu gywydd, neu awdl, neu benillion prydferth, byddai ei anwyl Mary yn eistedd i lawr yn dawel a gwrando ar y bardd yn eu darllen iddi, ac y mae yn dra thebyg yn rhoddi ei barn ar ffrwyth ei awen.
Ond erbyn hyn dyna angau wedi ymwthio rhwng gwyneb y gwr a'r wraig fel nad allant gymdeithasu a'u gilydd mwy. Mewn galar a hiraeth rhaid i Moriog fyw heb ei briod dawel a charedig. Cafodd ei magu yn yr eglwys, a'r fraint o'i chynal hyd y diwedd. Bu farw yn dawel, fel y bu fyw, a gwirioneddau dwyfol yn ei meddwl. Yr oedd ei chladdedigaeth yn lluosog a pharchus, pan yr oedd yr ysgrifenydd a Dr Freeman (Pres.) yn gweinyddu. Dychwelais o fan fechan ei bedd, gan sibrwd ar ôl Eben Fardd :
"Ond tryw drefn eto rhyw dro
Dihunir, a daw o hono."
JOSEPH ROBERTS.
Y Drych ~ Ebrill 1af 1886.
MRS. MARY ANN DAVIES. MILWAUKEE, WISCONSIN.
Mawrth 11eg,1886, yn Milwaukee, Wisconsin, yn 50 mlwydd oed, bu farw Mrs. R. O. Davies (Moriog). Merch oedd Mrs. Davies i Evan ac Ann Parry, Pen-y-groes, Llanllyfni, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.Tua 32 mlynedd yn ôl daeth i'r wlad hon o'r lle uchod, ac wedi treulio rhyw flwyddyn yn ardal Bark River, swydd Waukesha, Wisconsin, gyda'i modryb, ymsefydlodd yn ninas Milwaukee, hyd ddydd ei marwolaeth.
Yn mhen tua blwyddyn ymbriododd gyda Mr. R. O. Davies, yr hwn sydd ddyn cyfrifol, yn llenor a bardd gwych; a ganwyd iddynt ferch, yr hon a wywodd fel blodeuyn tyner, yn ddwy flwydd oed. Yr oedd ein chwaer yn naturiol gref o gyfansoddiad, a chafodd iechyd da am lawer o flynyddoedd. Er ys amser bellach blinid hi gan y cryd cymalau, yr hwn a drodd yn sciatic rheumatism, a thrwy enyn rhagddo nes cyrhaedd y pen, cwympodd hi yn archolledig i'r bedd.
Daeth torf anrhydeddus i ddangos eu parch iddi a'u cydymdeimlad a'r byw, pryd y gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. Jos. Roberts, Racine, a Dr. Freeman, (Pres.); a chafodd yr ysgrifenydd yr anrhydedd o bregethu pregeth angladdol iddi yn mhen ychydig ar ôl hyn.
Cafodd gystudd arteithiol, yr hwn a ddyoddefodd yn amyneddgar a dirwgnach, fel dysgybl da i Iesu Grist. Bu farw fel y bu fyw, yn nghanol tawelwch, hunan-feddiant, ac ymddíried llawn ar ddigonolrwydd ei Gwaredwr bendigedig. Yn y tymestloedd olaf, pan ymosodent arni gyda'u holl ffyrnigrwydd, cafodd ambell hen benill ac adnod yn greigiau cedyrn yn gysgod yn merw y lli'. Yr oedd ei thawelwch, ei gofal, ei darbodaeth am bethau y bywyd hwn, yn deilwng o ganmoliaeth ac efelychiad. A chredwn nad nad oedd y pethau gweledig hyn ond arweddau o hanfodion bywyd uwch o ran sylwedd, a hwy o ran parhad.
Gadawodd gartref, model o gartref yma, am gartref tragywyddol gwell yn y nefoedd, lle na syflir un o'i hoelion byth. Gadawodd briod tyner, caredig ac anwyl, ar y ddaear, i fyned i fynwes priod gwell, tynerach, ac anwylach gan ei henaid heddyw. Bydd gwedd, geiriau, bywyd ac ymarweddiad glan y wraig rinweddol hon yn elfenau anfarwol yn nghof a chalon llu mawr a'i hadwaenai. Chwith genym wrth sychu ein hysgrifell, na chawn ei chyfarfod mwy ar y ddaear hon. Hawdd y gellid chwanegu geiriau a lluosogi meddyliau am dani; ond i ba ddyben, gan y gellir cynwys ei bywyd oll mewn brawddeg fer fel hyn:— Hunodd y dawel, y ddarbodus, yr heddychol, y garedig a'r dduwiol Mrs. R. O. Davies yn yr Iesu. Cofir am ei henw, gwylir trigfan ei bedd, a gofalir am ei llwch. Bendithion bryniau tragywyddoldeb fyddo yn rhan byth i Moriog hefyd.
H. P. HOWELL.