MRS. ANN FOULKES. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.

Rhagfyr 4ydd, 1886, yn 78 mlwydd oed, Mrs. Foulkes, anwyl briod Mr. Hugh D. Foulkes, Middle Granville, New York.

Bu Mrs. Foulkes yn nychu am fisoedd, gan ymdrechu yn galed gadw y fflam fywydol; ond er pob ymdrech a gofal plant tyner a phriod gofalus, aageu orchfygodd.

Ganwyd yr ymadawedig yn Llanberis, Gogledd Cymru. Collodd ei rhieni pan yn bur ieuanc, a gwasgarwyd hwy i bob cyfeiriad, fel y bu y plant heb wybod ond ychydig am y naill a'r llall am flynyddoedd, ac y mae un o honynt nas gwyddant eto ei hanes. Y mae iddi frawd a chwaer yn Nghymru. Ei brawd ydyw Edward Foulkes, Ysw., Snowdon Terrace, Llanberis; ei chwaer yw Catherine, mam y diweddar gerddor galluog Orwig Wyllt. Ar farwolaeth ei rhieni gwasgarwyd y plant oddiwrth eu gilydd, aeth Mrs. Foulkes i ardal Bethesda, Arfon, a bu yn gwasanaethu gyda John Jones, Tai'n Coed, ac yn Colwyn a Chapel Cwta; ond er nad oedd neb i ofalu am dani pan yn ieuanc, cadwodd ei chymeriad da i fyny.

Priododd á Mr. H. D. Foulkes yn 1841. Daethant i America yn 1846. Sefydlasant yn Dodgevllle, Wisconsin a buont yno am 20 mlynedd. Wedi hyny symudasant i Middle Granville, New York, a buont yma am tuag 20 mlynedd.

Bu iddynt dri o blant, y rhai sydd yn fyw heddyw i gydalaru a'u tad, sef Mrs. John Davies, Shenandoah, Pennsylvania; Mrs. Price, o'r un lle, a Mrs. Henry Blackweil, New York. Aml a blin helyntion a'u cyfarfu pan yn dechreu byw yn Wisconsin — tywydd oer, ty tywyrch a tho gwellt arno. ac yn gorfod weithiau ddal gwlawlen (umbrella) uwch eu penau pan yn eu gwely. Dyna hanes cyntaf yr holl bioneers yn Wisconsin; ond wedi hyny bu eu cartref yn gartraf pregethwyr am flynyddoedd. Yr oedd yn meddu ar dymer groesawgar bob amser, ac y mae ei choffadwriaeth yn fendigedig gan lawer o weision yr Arglwydd. Erbyn heddyw y mae wedi myned at ei gwobr. "Daeth y chwalwr i fyny," a chwalodd y teulu hwn, wedi bod yn byw gyda'u gilydd am yn agos i 47 o flynyddoedd. Cydymdeimlwn yn fawr a'n hen dad yn ei waeledd a'i lesgedd, wedi ei adael yn unig; ond gwyr i ba le i droi. Yr Arglwydd a fyddo yn amddiffyn iddo ac i'r plant.

Cymerodd yr angladd le ddydd Mercher, Rhagfyd 8fed, pryd y gweinyddwyd yn effeithiol gan y Parch. E. Roberts, oddiar Rhuf. 16. rhan ddiweddaf o'r all adnod. Dysgwylir cofiant teilwng iddi eto yn y Cyfaill.

Nac wylwch am eich priod
Yn awr sydd wedi myn'd,
I'r nefoedd i folianu
Ei Brawd a'i hoffaf ffrynd;
Ca'dd lawer o drallodion
Tra yma ar y llawr,
Ond heddyw cana'n beraidd
Am ras y Meichiau mawr.
GWILYM FFRYDLAS.

Y Drych ~ Rhagfyr 23ain 1886.


MRS. ANN FOULKES. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.

Rhagfyr 4ydd, 1886, yn ei phreswylfod, yn Middle Granville, New York., bu farw y chwaer uchod, yn 78 mlwydd oed.

Ganwyd Mrs. Foulkes yn mhlwyí Llanberis, Sir Gaernarfon. Enwau ei rhieni ydoedd Edward Foulkes a Catherine Evans, Llwyn Celyn, plwyf Llanddeiniolen. Yr oedd yn perthyn i'r teulu hynodion, a chyfododd o'u mysg amryw o enwogion; a chefnder iddi hi oedd y diweddar Barch. Robert Ellis, Ysgoldy, yr hwn a ddywedai am y tylwyth, eu bod "yn bobl blaengywir, di-weniaeth a di-lol, di-ymffrost, a gelynion calon i bob ffuantrwydd. Gair byr, a hwnw heb fod bob amser yn fwyn, ac yn tueddu at fod yn anhyblyg." Ac yr oedd cywirdeb diweniaeth a di-lol, yn gystal ag anhyblygrwydd, yn nodweddion amlwg yn Mrs. Foulkes.

Collodd ei rhieni pan yn ieuanc, a gadawyd hi megys wrthi ei hun, i dori ei llwybr trwy yr anialwch fel y gallai, heb neb yn gofalu am dani, ond yr hwn sydd "yn gwrando ar gywion y gigfran pan lefont," ac a ddywedodd hefyd, "A'm llygad arnat y'th gyngoraf." Tosturiodd ef wrthi yn ei hunigrwydd, a "gwaredodd hi o'i holl gyfyngderau." Dychwelwyd hi at grefydd yn nhymor ei hieuenctyd, yn "amser ei serchawgrwydd," ac yr oedd ei dychweliad megys ysgub blaenffrwyth i ddiwygiad crefyddol grymus yn y fro hono. Wrth ei derbyn rhoddodd yr hen bregethwr, y Parch. Rowland Abraham, y cyngor canlynol iddi: "Gofala di am enw yr Arglwydd, ac fe ofala yr Arglwydd am danat tithau." Gosododd hithau hyn yn nod ac amcan mawr ei bywyd, gan anrhydeddu enw ei Gwaredwr, a rhodio yn addas i efengyl Duw: ac fe fu yr Arglwydd yn un a'i addewid yn ei ofal am dani hithau.

Yn y flwyddyn 1841 ymbriododd gyda Mr. Hugh D. Foulkes, a ganwyd iddynt dair o ferched, ag sydd eto yn fyw. Yn 1846 ymfudodd gyda'i theulu, a llawer eraill, i America, ac wedi bod am dymor yn ardaloedd Proscairon a Beaver Dam, Wisconsin, symudasant i Dodgeville, lle buont yn cartrefu am 18 mlynedd. Yno buodd hi, cystal a'i phriod, o wasanaeth gwerthfawr i achos crefydd yn mysg ein cenedl a'n pobl, efe fel "diacon o radd dda," ac un o'r rhai mwyaf talentog a berthyn i'r M. C. a adwaenem ni, a hithau yn gofalu ac yn darparu i wneyd y gweinidogion a ddeuai yno i bregethu yn gysurus. Cofia y to cyntaf o bregethwyr Wisconsin, (cynifer o honynt ag sydd yn aros hyd yr awr hon), am ei charedigrwydd i'r achos, ac iddynt hwythau fel gweision y Duw Goruchaf. Cymerodd hyny megys yn waith ei bywyd, i feddwl a gofalu am ei enw Ef, a chyflawnodd y gwaith heb olwg ar unrhyw gydnabyddiaeth amgen na'r mwynhad o anrhydeddu y Meistr, wrth barchu ac ymgeleddu ei weision.

Am yr ugain mlynedd olaf o'i hoes, buodd hi a'i phriod yn pabellu yn Middle Granville. Er nad oedd amgylchiadau yr achos yn galw am ei gwasanaeth yn yr un ffordd ag yn Wisconsin, na'i hamgylchiadau hithau yn fforddio, eto yr oedd ei ffyddlondeb a'i charedigrwydd i'r achos yn ddiball, yn mhob modd ag yr oedd rhyw lwybr yn agor iddi fod o wasanaeth a defnyddioldeb iddo.

Wrth weled claddu yr hen bobl, y naill ar ól y llall, nid ydym heb ofni fod elfen wir bwysig a gwerthfawr mewn ffyddlondeb a charedigrwydd i achos crefydd am mai achos Mab Duw ydyw, yn cael ei gladdu gyda hwynt. Nid yn unig y mae oes arall yn codi, ond mae ysbryd arall yn codi ag sydd yn amcanu troi pob peth yn fantais bersonol, yn lle llwyddiant i'r efengyl. "Canys pawb sydd yn ceisio yr eiddynt eu hunain, ac nid yr eiddo Crist Iesu."

Ond mae yn amlwg fod yr Ysbryd Glan yn ofalus i gofnodi gwaith ffydd, a llafur cariad "y rhai sydd yn meddwl am ei enw ef," ac yn ffyddlawn i'w achos. "Mair, yr hon a gymerodd lawer o boen erddom ni;" "yr anwyl Persis, yr hon a gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd;" "Tychicus, y brawd anwyl, a'r gweinidog ffyddlon," er na wyddom ni am ddim gwasanaeth a wnaeth heblaw cario dau lythyr a ysgrifenodd Paul yn Rhufain at eglwysi Ephesus a Colossa. Ond pwy fedr ddweyd i ba fesur mae bywyd yr eglwys Gristionogol heddyw yn dibynu ar waith y dyn ffyddlawn hwnw yn cario y ddau lythyr dros dir a mor i ben eu siwrnai.

Mae llwyddiant ysbrydol yr achos yn dibynu ar lafur a gwasanaeth ffyddlawn yn y pethau allanol lleiaf. Nid oes neb all ddweyd i ba fesur y mae llwyddiant y pregethwr yn dibynu ar y llety cysurus a gafodd, neu o'r tu arall, mae llety anghysurus lawer gwaith wedi fferu ei deimlad a lladd ei ysbryd i bregethu. Mae y pethau lleiaf a'r pethau mwyaf wedi eu cylymu a'u gilydd yn y grand results. A phan ddatguddir dirgelion pob peth, bydd llafur ffyddlon, diymhongar y wraig dda hon yn cael ei egluro a'i wobrwyo gan y Duw cyfiawn yn ol ei werth a'i deilyngdod yn nheyrn as ei Fab ef.

Yn y teulu, feddyliem, mae y wraig yn ymddangos i'r fantais oreu, a phrydferthion crefydd yn llewyrchu yn fwyaf dysglaer. Felly Mrs. Foulkes, i'w theulu ac ynddo, yr oedd ei hysbryd tangnefeddus, tynerwch ei theimlad, ei harferion darbodus a glanwaith, ac yn neillduol ei harfer o "warchod gartref yn dda," yn canmol gras ac yn "harddu athrawiaeth Duw, ein Hachubwr, yn mhob peth."Tra yn dawel a heddychol yn ei chymydogaeth, nid oedd cylch ei chyfeillion ymddiriedol ond bychan, ond i'r rhai hyny yr oedd hi yn bur o galon; ond os caffai siomedigaeth mewn un, nid oedd i hwnw ddyfodfa i'w mynwes mwy. Er nad oedd yn ddysgedig a thalentog, fel rhai, gwnaeth y goreu a allai o'r defnyddiau oedd yn ei meddiant. Er nad oedd y tabernacl ond ty dros dymor, eto yr oedd y gorchymyn i wneyd pob peth yn fanwl a pherffaith yn ol y cynllun, ac i ddysgu y wers fod Duw yn dysgwyl i bawb wneyd y gwaith goreu sydd yn bosibl a'r defnyddiau sydd yn ei feddiant.

Er na bu yn gorwedd o gwbl, cafodd gystudd maith a phoenus, a bu farw fel y bu byw, yn dangnefeddus ei hysbryd, a'i gobaith yn ddisigl, yn ymddiried yn y Gwaredwr y rhoddodd ei hun iddo yn foreu, ac y bu yn ei ganlyn am oes faith heb ddiffygio na phallu.

Gadawodd ar ei hol dair o ferched, Mrs. Davies a Mrs. Pierce, Shenandoah, a Mrs. Henry, Blackwell, New York, yn nghyd a'i phriod, mewn gwth o oedran, a llesg o ran iechyd, mewn hiraeth a galar ar ei hol. Rhodded yr Arglwydd iddo ef, tra yn aros yr alwad i ganlyn, amynedd a thangnefedd, ac iddynt oll ffydd i ymddiried yn y Duw yr ymddiriedodd hi ynddo.

Bu pobl dda Middle Granville yn garedig i'r teulu yn eu profedigaeth, a chladdwyd hi yn barchus yn ngwydd tyrfa luosog. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y Parch. E. Roberts oddiar Rhuf. 16: 2.

Ynddo ei hun nid yw bywyd neb yn gyflawn a gorphenedig; mae yn derbyn cyflenwad o'r gorphenol, a hefyd yn gwasanaethu i ddwyn allan berffeithrwydd uwch nag a fedda ynddo ei hun. Yr hyn sydd yn rhoddi gwerth ar fywyd y patriarchiaid a gwroniaid yr Hen Destament mewn ffydd ac amynedd, ydyw y dyfodol gwell yr oeddynt yn gwasanaethu i'w ddwyn oddiamgylch, yn fwy na'r hyn oeddynt ynddynt eu hunain, ac yn ngoleuni y perffeithrwydd hwn yr ydym i fesur gwerth eu gwasanaeth. Ac y mae gwasanaeth y chwaer ymadawedig hon, yn gystal a llawer eraill, i achos y Cyfryngwr, wrth edrych arno ynddo ei hun, yn ychydig, fe allai, ond pan ddaw Duw i wneyd i fyny y grand result, dyna y pryd y bydd ei werth yn ymddangos yn briodol.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1887.