MR. JOHN GRIFFITHS. YSGUBOR FAWR, COLUMBUS, WISCONSIN.

Hydref 20, 1886 yn 67 mlwydd oed, John Griffiths, Ysgubor Fawr, ger Columbus, Wisconsin, o'r dropsy ar y galon.

Daeth Mr Griffiths i'r wlad hon o Sir Gaernarfon tua 30 neu 40 o flynyddoedd yn ôl, gan sefydlu ar ddarn o dir lle y bu yn byw ar hyd ei oes.

Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf gweithgar yn yr ardal; ac yn bur fuan dewiswyd ef i brisio y tir yn y dref, yr hyn a wnaeth er boddlonrwydd da. Bu yn y swydd amryw droion, ac ar ôl hyny cafodd ei ddewis yn drysorydd(i.,i, i-, 4tton tua3u , a llanwodd y swydd hefyd yn ardderchog.

Yr oedd yn nodedig am ei onestrwydd. Byddai bob amser ofn i'r Cymry wneyd dim achos i'r bobl siarad amdanynt. Bu am lawer o flynyddoedd yn ddosbarthwr y DRYCH, am yr hwn y coleddai feddwl uchel iawn.

Fel cymydog yr oedd yn barod bob amser i wneyd cymwynas, ac y mae y gymydogaeth yn teimlo colled ar ei ôl, fel y dangosasant ddydd ei angladd, pryd yr oedd 60 o gerbydau yn bresenol ac yr orymdaith agos i dri chwarter milltir o hyd. Nid oedd neb yn teimlo yn fwy na'i deulu, canys yr oedd yn briod gofalus ac yn dad serchog.

Y Drych ~ Rhagfyr 2ail 1886.