MRS. MARGARET GRIFFITHS. SAINT GEORGE, KANSAS.
Mawrth 24ain, 1886, yn 41 mlwydd, 4 mis, 6 diwrnod oed, ar ôl cystudd poenus, anwyl briod Mr. Ellis W. Griffiths, St. George, Kansas.Merch ydoedd i'r diweddar Robert a Margaret Jones, Bont Haiarn, Clwtybont, Llandinorwic, lle y ganwyd hi Tachwedd 18fed, 1844. Bu yn briod ag E. W. Griffiths am agos i 19 mlynedd, a gadawodd ef ac un bachgen mabwysiedig i alaru ar ôl priod hawddgar a mam ddarbodus.
Ymfudodd hi a'i phriod i Kansas ddeng mlynedd yn ôl, o Sir Oneida; ac yr oedd yn barchus iawu gan ei holl gydnabod yn nghylchoedd St. George. Yr haf diweddaf aeth hi, ei phriod a'i bachgen (mabwysiedig) am dro i weled eu perthynasau yn Nghymru, lle yr arosasant bedwar mis. Wedi dychwelyd i Kansas yn Hydref diweddaf, tywynodd haul llwyddiant ar y teulu bychan; ond tua chanol Ionawr cymerwyd Mrs. Griffith yn glaf gan ei hen elyn, y crydcymalau, yr hwn a'i blinasai er's pymtheg mlynedd; ac ni fu yn alluog i godi o'i gwely ar ôl Ionawr 25ain heb gymorth.
Tua chwech wythnos cyn ei marwolaeth, cafodd ddwy ergyd o'r parlys, ac mor ddiymadfetth yr aeth fel yr oedd yn gofyn pedwar neu bump i weini arni ddydd a nos. Ymaflodd y dropsi hefyd yn ei chyfansoddiad; ac yn y diwedd aeth y crydcymalau at ei chalon, gan herio holl allu pedwar o feddygon goreu yr ardaloedd. Dyoddefodd ei chystudd maith a phoenus yn ddirwgnach, a dangosodd yn amlwg fod crefydd yn talu iddi yn oriau cyfyng marwolaeth. Yr oedd yn un hoff iawn o ddarllen; ac hyd y diwedd yn cymeryd dyddordeb mawr yn y DRYCH, yn neillduol yn yr hanes am y cload allan yn Llanberis; a rhoddodd yr hysbysiad eu bod wedi myned i weithio yno foddlonrwydd mawr iddi.
Ar ôl dyoddef poenau arteithiol, syrthiodd i sefyllfa o ddideimladrwydd, a bu farw yn dawel ar y dydd a nodwyd. Dranoeth hebryngwyd ei rhan farwol gan dyrfa luosog, i fynwent Saint George, pryd y gweinyddwyd yn y tŷ ac wrth y bedd gan y Parch. J. W. Simkins; ac yn addoldy y M. E., lle yr oedd yn aelod ffyddlon, traddodwyd pregeth angladdol effeithioi gan y Parch. A. L. McNair, yn ôl ei dymuniad, oddiar I Thes., 4. 14.
Cafodd Mrs. Griffith ddygiad i fyny crefyddol, a pharhaodd yn Gristion pybyr trwy ei hoes, fel yr oedd marw iddi. Yr oedd iddi air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun. Yr oedd yn hynod egniol gyda phob achos da, a chymerai ddyddordeb mawr yn yr ysgol Sul, lle y teimlir chwithdod ar ei hol. Heddwch i'w llwch.
GYFAILL.