MRS. ANN HUGHES. MINNEAPOLIS, MINNESOTA.
Tachwedd 23ain, 1886, yn Minneapolis, Minnesota, yn 49 mlwydd a 9 mis oed, Mrs. Ann Hughes, anwyl briod Mr. Owen J. Hughes.Dyoddefodd gystudd trwm am saith wythnos, ac yn y diwedd trodd yn blood poison, yr hyn fu yn angeu iddi.
Ganwyd hi yn Cwmyglo, Llanrug, Sir Garnarfon. Gogledd Cymru. Oollodd el mam pan yn lied ieuanc. Ymfudodd i'r wlad hon pan yn 14 mlwydd oed, yn nghwmni ei thad Owen Lewis a'i brawd Thomas.
Ymsefydlasant yn Floyd a Remsen, New York. Ymunodd hi ag eglwys y Bedyddwyr yn Bordwell yn 1857 a bedyddiwyd hi gan y Parch. Owen F. Parry.
Yn Gorphenaf, 1868, priododd Owen J. Hughes, o'r un ardal, a bu iddynt ddau o blant, sef Lizzie a Milton Hughes. Symudasant i Bangor, Wisconsin, yn 1868, ac yna i Minneapolis yn 1883. Yr oedd gan Mrs. Hughes feddwl mawr o Bangor, a chadwodd ei haelodaeth eglwysig yno hyd ei marwolaeth; ac yn mynwent Bangor y claddwyd ei gweddillion. Gweinyddwyd ar yr achlysur yn Minneapolis gan y Parchn. J. N. Roberts (T. C.) a Mr. Wright (B.), ac yn Bangor gan y Parchn. H. M. Pugh (T. C.) a J. J. Vaughan (B.)
Derbynia Mr. Hughes a Milton a'r ferch Mrs. John Jones gydymdeimlad dwysaf eu cyfeillion yn eu profedigaeth chwerw o golli priod hoff a mam dyner a gofalus.