MRS. ELENOR HUGHES. PHILADELPHIA, PENNSYLVANIA.
Chwefror 8fed, 1886, yn Philadelphia, Pennsylvania, Mrs. Elenor Hughes, anwyl wraig Mr David Hughes, a mam y dadganwyr enwog, yr Hughes Brothers.Lled wanaidd oedd iechyd Mrs. Hughes ers amryw flynyddau, ond haemorage a osododd derfyn ar ei gyrfa ddaearol, yn 69 mlwydd oed. Yr oedd yr ymadawedig yn enedigol o Corris, Sir Feirionydd, Gogledd Cymru, ond pan yn ferch lled ieuanc, aeth i fyw ger Tredegar, Sir Fynwy, De Cymru, lle yr ymunodd mewn peth amser wedyn mewn glan briodas â David Hnghes, yn eglwys Bedwellty. Buont yn briod am dros 45 mlynedd o amser, a ganwyd iddynt bump o blant, pedwar o'r rhai, a'i gwr anwyl, sydd eto yn fyw i alaru ar ôl gwraig a mam dyner a duwiol. Yr oedd wedi ymuno a'r Methodistiaid flynyddoedd cyn ymadael â Corris, a bu yn aelod am flynyddau yn eglwys Abercarn, o dan weinidogaeth y Parchn. Dr. Charles, Dr. Saunders, ac eraill, hyd nes iddynt fel teulu yn ŵr a gwraig ac un ferch, ymfudo i'r wlad hon dair blynedd a haner yn ôl, at eu melblon oedd yma yn flaenorol.
Cafodd bob tynerwch pan yn fyw, a chladdedigaeth hynod o barchus o'r hyn oedd farwol o honi. Claddwyd hi ar yr lleg, yn Northwood Cemetery, pryd y gweinyddwyd yn y tŷ ac ar lan y bedd, gan y Parch. Ednyfed Evans, yn deimladwy ac i'r pwrpas. ED. P. DAVIES.