MR. JOHN K. HUGHES. OSAGE COUNTY, KANSAS.
Awst 26ain, 1886, yn Osage City, Kansas, o'r Malaria Fever, yn 21 mlwydd oed, John K Hughes, mab i Edward a Jane Hughes, genedigol o Maentwrog, Sir Feirionydd.Ymfudodd y teulu i'r wlad hon yn 1869, ac ymsefydlasant yn ardal Bridgewater, New York; oddiyno daethant i Kansas yn 1876. Yr oedd John yn fachgen iach a gwrol nes yr oedd yn agos i 7 oed, pryd y daeth owmwl dros ei fywyd, a bu ei nerth yn "boen a blinder" o hyny allan. Dechreuodd y spasms ei flino pan tua 7 oed, a buont yn ei flino ar adegau hyd y diwedd, ac yn bur ddrwg y flwyddyn ddiweddaf. Cafodd stroke o'r parlys yn agos yr un adeg, nes gwneyd ei ochr dde bron yn ddiffrwyth. Hefyd, effeithiodd yr afiechyd hwn yn raddol ar ei lygaid nes iddo fyned yn hollol ddall, ac felly y bu hyd ddydd ei farwolaeth. Bu am ran o cbwe' tymor yn y Blind Asylum yn agos i Kansas City, Missouri. Yr oedd ei afiachyd wedi gwanhau ei alluoedd i raddau, ond yr oedd yn un crefyddol iawn o ran ei ysbryd. Gwnaeth sefydlu cyfarfod gweddi tra yn yr Asylum, am yr hwn yr oedd yn hoff iawn o siarad pan wedi ei atal gan afiechyd i fod yno.
Yr ydym yn credu iddo fyned "O dywyllwch i oleuni."
Claddwyd ef ar y 27ain. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan yr ysgrifenydd.