MRS. MARGARET HUMPHREYS. BROWNVILLE, MAINE.

Awst 30, 1886, yn 57 oed, Mrs. Margaret Humphreys, priod Mr. James Humphreys, Brownville, Maine.

Dranoeth daeth tyrfa luosog o Americaniaid a Chymry i dalu y gymwynas olaf i un a hoffid yn fawr gan bawb a'i hadweanai. Cyflawnwyd y gwasanaeth angladdol yn y tŷ gan y Parchn. C. L. Nichols a Richard Jones, gweinidog eglwys Undebol Gymreig Brownville, o'r hon yr oedd Mr. Humphreys ya aelod ers peth amser.

Merch ydoedd Mrs. Humphreys i Edward a Margaret Ellis, Fountain Street, Hirael, Bangor, Gogledd Cymru. Brodor o Garn Dolbenmaen, Eifion Arfon, ydyw ei phriod. Symudodd y teulu i'r wlad hon yn 1853, o ardal Bethesda, Arfon. Gogledd Cymru, ac ymsefydlasant yn Brownville, lle y maent, wedi gwneyd cartref cysurus a lluaws o gyfeillion; ond pan yr oeddynt yn dechreu cymeryd hapusrwydd, cymerwyd Mrs. Humphreys yn glaf gan carbuncle, a bu yn dyoddef yu dychrynllyd am flynyddoedd. Onibai ei bod o gyfansoddiad cryf, buasai wedi marw er's llawer o amser. Yr oedd yn llawn o fywyd a chalondid trwy y cyfan; ond y peth fu yn angeuol iddi oedd y madredd, neu gangrene. Dyoddefodd y cyfan yn amyneddgar. Yr oedd ganddi afael mawr am fyw, er mwyn ei phriod a'i phlant.

Ganwyd iddynt wyth o blant, ond bu farw tri, dau yn Nghymru ac un yma. Mae tri wedi priodi, dau fab a merch, oll yn byw yn Maine.

Clywais Mr. Jones, ei gweinidog, yn dweyd fod pob arwyddlon ei bod wedi cael adnabyddiaeth o'r Gwaredwr, a'i bod yn myned i wlad heb boen na chlwy. Nerthed y nefoedd ei phriod a'i phlant i ymddiried yn Nhad yr amddifaid, a galluoger hwynt i "dewi megys Aaron."

Claddwyd ei gweddillion marwol yn mynwent Brownville, ac er ei bod yn gwlawio yn anghyffredin, cafodd gladdedigaeth barchus a boneddigaidd.

Y Drych ~ Medi 23ain 1886.