MRS. ANNE JONES. MIDDLE GRANVILLE, NEW YORK.
Medi 1af, 1886, yn Middle Granville, New York, yn 32 mlwydd ood, ar enedigaeth plentyn, Anne, gwraig Mr. William M. Jones, a merch Mr. Thomas Hughes, cigydd, Blaenau Ffestiniog, Gogledd Cymru.Yr oedd yr ymadawedig yn ddynes brydweddol, landeg, addfwyn a chymeradwy; yn briod serchog a darbodus, yn fam dyner a gofalus, ac yn gymydoges heddychlon a chymwynasgar.
Gadawodd bedwar o blant a phriod. ynghyd â pherthybasau i alaru amdani. Cafodd gladdedigaeth lluosog a pharchus y dydd Sadwrn canlynol, pryd y gweinyddwyd yn deimladwy ac effeithiol gan y Parch. T. M. Owen, Granville.
R. W. G.