MRS. ELIZABETH JONES. MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ebrill 21ain, 1886, yn Marcy, New York, yn 89 mlwydd a 2 fis oed, Mrs. Elizabeih Jones. gweddw Morris Jones, Bethania.

Ei chartref yn Nghymru oedd Ty'n Llan, Llanarmon, Sir Caernarfon, Gogledd Cymru, yn agos i Pwllheli. Daeth hi a'i phrlod i'r wlad hon tua 58 mlynedd yn ôl, gan sefydlu yn Marcy.

Bu iddynt saith o blant, o'r rhai y mae pedwar yn fyw, sef Mrs. J. Ten Eyck, Albany; Mrs. Hugh Davies a Mrs. J. Jones, Utica, a David Jones, sydd yn byw yn yr hen gartref. Cafodd Mrs. Jones brofedigaethau lawer yn y byd trwy golli ei phlant John a Laura, ac ar ôl hyny ei hanwyl ferch, priod Mr. Evan Owen, Ixonia, Wisconsin. Yr oedd yn un yn meddu synwyr cyffredin cryf, ac yn gallu llywodraethu ei hun a'i theulu fel yr oedd eu serch ati yn anghyffredin. Yr oedd yn llon'd ei lle yn ei theulu - yn ddiwyd, gofalus, teimladwy, tosturiol a boddlon i wneyd pob peth er cysur ei phlant a'i gwr pan oedd.

Un dawel yn ei chymydogaeth, gymwynasgar a dirodres ydoedd. Yr oedd yn aelod ffyddlon o eglwys Bethania er pan ydym yn ei chofio, a pharhaodd hyd y diwedd a'i meddwl gyda'r achos da. Byddem yn myned i'w gweled yn aml yn ei henaint. Dywedai yn aml ei bod yn gweddio mwy fel yr oedd yn tynu at y terfyn, bod ei henaid yn pwyso ar y Gwaredwr, ac nad oedd arni ofn ymddiried ynddo. Darllenodd ei Belbl drosto oll amryw weithiau, a myfyriai ar ei egwyddorion. Ychydig cyn ei marw canodd i'w hanwyl ferch -

"Yn y dyfroedd mawr a'r tonau,
Nid oes neb a ddeil fy mhen."

Yr oedd teimladau a dagrau ei phlant ddydd ei hangladd yn dangos yr anwyldeb oedd ynddynt ati. Bydded iddynt sychu eu dagrau a pharotoi i fyned ar ei hol.

Cafodd gladdedigaeth anrhydeddus yn meddrod y teulu yn mynwent Bethania, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. R. G. Jones, D. D., Utica, a'r ysgrifenydd.
J. R. GRIFFITH.

Y Drych ~ Mai 27ain 1886.