MR. ISAAC JONES. CLEVELAND, OHIO.
Mai 6ed, 1886, yn 29 mlwydd oed, yn yr Infirmary, yn Cleveland, Ohio, Isaac Jones, o'r hip disease. Bu yn sal am yn agos i ddwy flynedd, a dyoddefodd yn ddiau lawer iawn o boenau arteithiol, nes oedd yn y diwedd wedi myned yn wael a theneu iawn ei wedd. Bu mewn tri ysbyty yn Cleveland, ac yn ddiweddaf oll yn yr Infirmary, a chafodd bob gofal a thynerweh. Tua dwy flynedd yn ôl yr oedd yn gweithio mewn boiler shop yn Newburg, ond methodd a gweithio gan y blinder a nodwyd.Mab ydoedd yr ymadawedig i Robert Jones a'i briod, Tyn y Park, Rhostryfan, Sir Gaernarfon, Gogledd Cymru, lle hefyd y cafodd ei eni, a deallwyf fod tylwyth iddo yn byw yn ardal Llanfechell.
Chwarelwr ydoedd wrth ei alwedigaeth, a bu yn gweithio yn chwarel Bethesda. Symudodd i'r wlad hon tua chwe' blynedd yn ôl, a bu yn byw am flwyddyn neu ychwaneg yn rhywle yn Nhalaeth Maine, cyn iddo ddyfod i Newburg. Dyn sengl ydoedd Jones, o ysbryd hynaws a mwyn arbenig; a thra yr arosai yn Newburg, arferai fynychu cyfarfodydd crefyddol ac Ysgol Sabbothol yr A., a phob arwyddion y buasai yn fuan yn dyfod yn aelod o'r eglwys, oni buasai iddo orfod myned i'r ysbyty yn y ddinas.
Nid oedd iddo berthynas yn ôl a wyddom o fewn y wlad, na neb yn y lle hwn yn ei adwaen, oddigerth un, sef Mr. Rice Thomas Lewis, fel ag yr oedd yma yn nghanol dyeithriaid hollol.
Cymerodd ei angladd le prydnawn dydd Sul, Mai 9fed, pryd y dygwyd ei gorff i fyny o'r Infirmary i gapel yr A. yn Newburg, ac y gweinyddwyd yn briodol iawn ar yr amgylchiad gan y Parch. W. P. Edwards, yr hwn hefyd, yn nghyd â Mr. Rice T. Lewis, gymerasant y drafodaeth fwyaf yn ei gladdedigaeth. Cafodd angladd parchus. Dygwyd ei gorff i fynwent Newburg, a gosodwyd ef yn y vault, a chleddir ef un o'r dyddiau nesaf yn y lot Gymreig, fel y gall ei berthynasau oll ymgysuro i Isaac Jones gael claddedigaeth deilwng o Gymro a deiliad gwlad efengyl. Teimlwyf yn ddyledswydd i anfon hyn o helynt am dano, er mwyn ei rieni hoff a'i frodyr cu a'i berthynasau.