MRS. JANE JONES. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.

Mehefin 14eg, bu farw Mrs. Jane Jones, priod Mr. John L. Jones, Steuben Street, Utica, ar enedigaeth ei chyntaf anedig pan nad ond ychydig dros ddwy ar hugain. Teimlir galar dwys ar ei hol yn eglwys Bethesda, gan ei bod yn aelod ffyddlon a selog iawn o'r eglwys a'r Ysgol Sabbothol.

Merch ydoedd i Mr. David D. Roberts a'i briod, Cooper Street, Utica, pa rai ydynt wedi magu eu teulu oll i'r Arglwydd, a chael y fraint o'u gweled yn ymgyflwyno i'w wasanaeth.

Ganwyd Mrs. Jones yn Llanberis, Gogledd Cymru, Chwefror 19eg, 1864. Ymfudodd gydai'i rhieni yn 1872 i Utica, lle y darfu iddynt ymgartrefu, a lle y derbyniwyd hi yn aelod eglwysig.

Priododd Mehefin 10fed, 1884. Parhaodd yn ffyddlon i'r Ysgol Sul wedi priodi. Dywedai fod pobpeth yn myned o chwith arni y Sabboth os collai yr ysgol yn y boreu.

Hoffid hi gan bawb a'i hadwaenai. Teimlai teulu eu gŵr mor hiraethlon ar ei hol a phe buasai yn blentyn naturiol iddynt.

Ymgynullodd tyrfa fawr ynghyd yn neilltuol o bobl ieuangc, i'w hangladd, a gweinyddwyd gan y Parch. R. Gwesyn Jones.

Mae angau wedi ymweled yn aml iawn ag eglwys Bethesda yn ystod y flwyddyn hon. Dyma y chweched aelod mewn pum' mis o amser. Hyderwn y bydd hyn yn foddlon i ddeffro pob aelod yn yr eglwys i ymestyn at fod yn fwy defnyddiol tra y pery eu dydd. Rhodded yr Arglwydd nodded a chysur i'r amrywiol deuluoedd sydd yn eu galar.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1886.