MRS. JANE JONES. BANGOR, NORTHAMPTON COUNTY, PENNSYLVANIA.
Gorphenaf 28ain,1886, yn 73 mlwydd oed, Jane, priod Thomas T. Jones, Bangor, Northampton County, Pennsylvania, a merch William Edwards, Barmouth, Llanllyfni, Arfon.Ymsefydlodd lluaws o'i pherthynasau yn foreu yn nghylchoedd Utica. Daeth hi drosodd yma yn 1856, ac ymsefydlodd y teulu yn Slatedale, ger Slatington, lle y treuliasant yr holl amser oddigerth y ddwy flynedd ddiweddaf.
Gadawodd briod a chwech o blant i alaru ar ei hol. Y mae Dewi Glan Dulas yn briod gyda'r ferch ieuangaf, a John Weldon, Bangor, gyda'r ail, a John W. Parry, Slatington, gyda'r hynaf.
Yr oedd yr ymadawedig wedi mwynhau iechyd yn helaeth iawn, oddigerth ychydig ar ddiwedd y daith. Byddai yn ymddangos yn fywiog ac yn llawen ei hysbryd bob amser, ac y mae lluaws o Gymry wedi dyfod i wybod amdani trwy ei charedigrwydd o letygarwch. Perthynai i'r Bedyddwyr, ac y mae gan ei theulu sail i obeithio cael ei chwrdd eto mewn lle gwell. Deuwyd a'i gweddillion i Slatington i'w daearu yn Fairvlew Cemetery, Awst 1af, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. William H. Jones, John W. Morris a Thomas Morris.
'RHEN GILGWYN.