MRS. MARY PARRY JONES. TURIN, LEWIS COUNTY, NEW YORK.
Awst 26ain, 1886, Mrs. Jones, anwyl briod John E Jones, gerllaw Port Leyden, Swydd Lewis, New York, yn 56 mlwydd a 5 mis oed.Merch ydoedd i Robert a Sarah Parry, Llanrug, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru.
Ymfudodd i'r wlad hon yn 1842, yn yr un llong a'r diweddar Barch Edward Rees, gyda ei mam ac un brawd a thair chwaer. Buont yn aros am ychydig amser yn Steuben, ac yna symudasant i'r ardaloedd hyn.
Yma y priododd hi gyda John E Jones, yn mis lonawr, 1852. Ganwyd iddynt bedwar o blant, sef dau fab a dwy ferch.
Ei hafiechyd ydoedd rhyw fath o ddarfodedeigaeth. Dyoddefodd gystudd maith. Ar yr 28ain, hebryngwyd ei gweddillion i fynwent Turin, pryd y gweinyddwyd gan y Parch. Lewis Williams yn Gymraeg a Saesneg.